Skip to main content

■' iEUENCTYD CYMRU. Cyf. X. Medi, 1908. Rhif 117. Y 'Byá ar Hyn o *Bryd. YSGRIFENIR a phregethir yn y dyddiau hyn ar ac am Ad- uniad yr Ymneillduwyr a'r Eglwyswyr. Gwneir hyn yn fwy gan Eglwyswyr na chan Y Son am Aduniad. Ymneillduwyr. Nid yw telerau yr Aduniad yn cael ei ddeffìnio. A'r ysgrifau a'r pre- gethau yn mhell i ddangos fod yr Ymneillduwyr i fyn'd yn ol í'r Eglwys. Ystyrir felly yr Ymneillduwyr yn blant fradlon, a'r Eglwys yw " Ty ein Tad." Priodol gofyn, Beth yw barn yr Eglwyswyr am yr Ymneillduwyr fel y maent yn awr ? Ai fel gwrthgilwyr ynte fel cydweithwyr Cristion- ogol y cydnabydda yr Eglwys hwy ? Ä oes gwahaniaeth yn eu golwg rhwng bedydd o law gweinidog Ymneillduol, a bedydd o law offeiriad neu esgob ? Ai yr un yw perthynas gweinidog wrth fwrdd y Cymundeb ag eiddo person y plwyf ? Ai yr un o ran awdurdod ac ysbrydolrwydd ydyw cenhad- aethau yr Ymneillduwyr a chenhadaethau yr Eglwyswyr ? Onid yw yr Eglwys Wladol yn honi pethau pwysig iddi ei hun, na chydnebydd eu bod yn perthyn i Ymneillduaeth ? Beth pe elai yr Ymneillduwyr i mewn o'u bodd boreu yfory i'r Eglwys Wladol, ar ba delerau y cawsent fyned yno ? À gawsai eu pregethwyr fod yn Offeiriaid, ac yn Ganoniaid, ac yn Ddeoniaid, ac yn Esgobign ? A gawsai yr Ymneillduwyr i roi eu llais a'u pleidlais yn materion yr Eglwys, yn ogystal a'i defod, a'i chredo, a'i swyddogaeth.au ? Mae ymholiadau o'r fath yn dangos geudeb y siarad sydd am Aduniad o'r fath. Yr unig beth a gais yr Ymneillduwyr yw i roi yr Eglwys Wladol ar yr un tir a'r enwadau ereill, mor bell ag yr â ei pherthynas a'r Wladwriaeth. A chan fod yr Ymneilldu- wyr yn rhan o'r Wladwriaeth, ac yn rhan o'r Llywodraeth Wladol, maent yn penderfjtíranîHnefeajff y Senedd noddi un