Skip to main content

Ieuenctyd + Cymru. Cyf. V. TACHWEDD, 1903. Rhif 59. * AT EIN GOHEBWYR. i. Archebiom a thaliadlaiu i Mr G. Griffiths, 2, Ynyisiwydi Street, Abeidlar. 2. Gofala Mr WiHiam Joto Evans, Commiercial Street, Aberdar, am y Gerdtdbriaieth, 3. Y Farddbníiaeth i'r Parch. Bem Davies, Panteg, Ystalyfera. 4. Pob peŵh arall i'r Golygyd'du Y Byd ar Hyn o Bryd. ^TYBIA rhai pe deuai yr Eglwyswyr a'r Ymneillduwyr i gyd- (iJy ddealldwriaeth yn nglyn a'r Ddeddf Addysg, y cawsid heddwch yn iawn ac arosol. Meddwl camarweiniol ydyw y fath feddwl. Nis gellir cael da parhaol, a da yn iawn, heb fyned at wreiddyn y drwg. Gwreiddyn y drwg yn y wlad hon ydyw y cysylltiad sydd rhwng y Llyẅodraeth a chrefydd. Mae hwnao hyd yn afiechyd mewnol yn y corff crefyddol, ac nid oes iechyd i'w ddysgwyl heb gael gwared o'r drwg yna o'r fan yna. Felly, nid ein prif bwnc fel Ymneillduwyr ddylasai fod i ddod i gyd-ddeall- dwriaeth i gydweithio â'r Eglwyswyr. Pe gwnaethem hyny, rhodd- asem gyfleusdra pellach i hen ddrwg i waethygu. Prif ymgais Ymneillduaeth ddylasai fod i hawlio Datgysylltiad a Dadwaddoliad. Os am wella y Ddeddf Addysg, nìd oes ond un ffordd am ei gwellhad, a'r ffordd hono ydyw Datgysylltiad a Dad- waddoliad. Heb hyn, pe caem luaws 0 bethau ereill, ni chawsem. ddigon ; drwy hyn, pe na chawsem'ddim arall, ni a gawsom ddigon. Mae lluaws o'r Eglwys heddyw yn dyheu am hunan-lywodraeth, ond ni chant hunan-lywodraeth heb Ddatgysylltiad, ac ni cha'r genedl gyfiawnder heb Ddadwaddoliad. Mâe'r Ddeddf Addysg yn addfedu'r ^lad i hynyma. Boed i ni fel Ymneillduwyr i fanteisio ar y llanw.