Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ieuenctyd + Cymru. Cyf. V. HYDREF, 1903. Rhif 59. * AT EIN GOHE-BWYR. i. Archebioaii a thaliadau i Mr G. Griffiths, 2, Ynyslwydi Street, Aberdar. 2. Gofala Mr WiJliani Johri Evams, Commercial Street, AbMrfar, am y Gerddòriaeth, 3. Y Farddbmaeth i'r Parch. Beni Davies, Panteg, YstalyfottL 4. Pob peth arall i'r GolygydtL AT EIN DOSBARTHWYR ÄN DARLLENWYR. Mae yn wir flin genym fod y cyhoeddiad mor ddiweddar cyn dyfod allan y tro hwn. Mae hyn yn cyfodi oddiar rwystr anocheladwy yn y swyddfa, ar nid o'n tu ni Diolchwn i chwi oll am eich amynedd, a gobeithiwn na chyfyd yr un rhwystrau eto yn y dyfodo1. LLYTHYR ESSYLLWG. Y bardd ieuanc gollodd ei fywyd yn y lofa yn Mountain Ash yw Essyllwg. Fe gofia'r darllenydd am ei ysgrifâu yn Ieübnotyd Cymru ar " Islwyn." Yn nghanol papyrau, dodasom ein bys ar y llythyr a ganlyn o'i eiddo :— "Elim Villa, Mountain Ash, 2/7/'02. " Anwyl Mr Evans,—Dyma fi eto vn dod ag Islwyn, yn llawn cymylau a duwch trawsgyweiriadol pechod. Gobeithio y bydd yn dderbyniol gan y darllenwyr. Rhaid cael y melus a'r chwerw 0 hyd. [Mor awgrymiadol o'i ddiwedd.] " Mae genyf luaws 0 benillion i chwi. Cewch hwynt erbyn diwedd yr wythnos, os byw-ac iach, yn nghyd ag ysgrif ar Chalmers. Ydwyf, Essyllwg"