Skip to main content

IEUENCTYD CYMRU: Cyf. IV. Medi. Rhif 45. AT EIN GOHEBWYR. 1 Archebion a thahadau i Mr G. Griffiths, 2, Ynyslwyd Street, Aberdare. 2. Gofala Mr William John Evans, Commerdal Street, Aberdar, am y Gerddoriaeth. , ■'- 3. Y Parddoniaeth i'r Parch Ben Davies, Panteg,, Ystalyfera. 4. Pob peth arall i'r Golygydd. '?"■;'/- - At y Cerddorion :—Mae genym nifer o donau mewn Uaw, ond o her- wydd rhwystrau nas gellid oddiwrthynt, yr oedd yn anmhosibl i gael un allan y tro hwn. Yn Nghyfeillach Beirdd Ymädawedig. Gan Tom Jones (Essyllwg,) Mountain Ash. ISLWYN-Rhif VI. Ar ol darllen y desgrifiad brawychus ac ofnadwy a rydd Isiwyn o bechod, a gwrando swn y taranau, a theimlo y cymylau yn gwasgu arnom, gan ein gordroi a thywyllwch ìlethol, O mor ddymunol ydyw cael dyfod yn ei law allan o swn y rhyferthwyon i lechwedd dymun- ol i wrando ar ei ddesgrifìad ardderchog o Dduw yn adferu pechadur trwy rinwedd " Gwaed y Groes." Y mae ei ddesgrifiad mor odiaethol dlws, mor farddonol, ac mor gydweddol a tbeimladau ein calon, fel y carasem yn fawr ddyfynu yn helaeth o'r darlun ; ond y mae y tir sydd o'n bíaen mor llydan a thoreithog fel y mae yn rhaid ymatal er cymaint fyddai ein boddhad i wneuthur hyny. Ond nis gallwn, ddarllenydd anwyl, a pheidio dyfynu y llinellau hyny Ile mae y bardd mewn mawredd anaghyffredin yn ein dwyn yn ol ar edyn " adgof," i'r adeg pan oedd ein Hiesu hawddgar yn wylo ar rai o lwybrau Gwlad yr Addewid, pan yn gweled hagrwch pechod a'i