Skip to main content

33 \ 223 i YMDDYDDAN EHTOÖ ELIZABETH A SABAH AM IEäU GBIST. Elizabeth. (Yn canu wrthi ei hun,) " Mae Iesu Grist o'n hochr ni; Tywalltodd ef ei waed yn lli'; Trwy rinwedd hwn fe'n dwg yn iach I'r ochr draw'n mhen gronyn bach." Sabah. (Pan yr oedd Elizabeth bron â myned dros y llinell olafyn nesau ati, ac luedi iddi orphen, yngofyn,) Beth sydd i'w feddwl, Elizabeth, wrth íbd "Ies'u Grist o'n liochr nif E.—Y meddwlydyw, ei fodef o'n plaid ni—ei fod dros- om ni. S.—Bydd yn dda iawn genyf fi glywed rhywbeth am Iesu Grist bob amser; a wnewch chwi ddyweyd i mi pa fodd y mae Iesu Grist drosom ni ? E.-—Wel, Sarah, y mae efe wedi marw drosom ni; ac y mae yn awr yn y nefoedd yn eiriol di'osom ni. S.—Yr wyf wedi bod yn meddwl lawer gwaith sut y bu Iesu Grist farw drosom ni! Ai ni buasai farw fel pawb arall, pe buasai heb farw drosom ni ? E.—Na fuasai. Ond cymaint oedd ei gariad tuag atom fel y bu farw o'i fodd yn ein lle; ac ar sail ei farw- olaeth drosom, y mae hefyd yn eiriol drosom. Y mae yn erfyn am i ni gael byw ar y ddaear, ac am i ni gael pob peth sydd yn angenrheidiol i ni fyw yn dduwiol. S.—Paham na buasai raid i Iesu Gfristfarw, Elizabeth ? E.—Wel, Sarah, yr ydych yn cofìo fod Iesu Grist yn Dduw, ac felly fod yn anmhosibl iddo farw. S.—Ond yr oedd Iesu Grist yn ddyn hefyd. E.—Oedd; ond yr oedd yn ddyn mor dda, fel yr oedd ganddo hawl i fyw byth, ond o gariad tuag atom ni, fe ddewisodd farw yn ein lle. S.—Eelly fe wnaeth Iesu Grist gymaint a allasai drosom ni. E.—Do. S.—Ond os bu Iesu Grist farw yn ein lle ni, pa fodd y mae pobl dduwiol yn marw ? E.—Yr ydych yn cofìo fod Iesu Grist yn dyweyd wrth Martha, " Yr hwn sydd yn credu ynof fì, er iddo farw a fydd byw." Chwi a welwch felly nad ydyw marwolaeth i bobl dduwiol yn ddim ond symudùtd ì'r "ochr draw." M RHAoyTE, 1866.