Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

201 Y DYN BACH. GAN Y PARCH. J. H. EYANS. Ye. Athraw inawr hwnw a ddywedodd, " Goleuni y byd ydwyffi," y goleuni hwn a ollyngodd ei belydr ar ben y plentyn, ac a ddangosodd i'r byd annhraethol bwysig- rwydd y ffaith o'i fodaeth gyda dau air—dyn bach—Dyn bach ! Byd yw ein byd ni ag y mae ynddo bethau mawr. Mae y rh'an fwyaf o'i bethau ag sydd yn fawr wedi bod yn fychan. Y peth mawr a fu'n fach ag sydd yn myned yn fwyaf yn ein byd ni yw dyn. Mae hwn yn myned mor fawrfelrhaid ei dafìu dros derfynau y byd, rhag iddo rwygo canllawiau ei ytnylon, i dragwyddoldeb, fel y gall gael digon o le i fyned yn fwy. Pa fod yn y byd hwn mor ardderchog, mor bwysig, mor fawr, mor ofnadwy a dyu ? felly, pan mae ein Harglwydd yn galw y creadur bach, tlws, anwyl, yna a goleddir at y fron, a orseddir ar y lin, a ddifyrir â theganau, a fradychir yn aml i ddystawrwydd, , a amddiffynir ddydd a nos â chariad ac à nerth; neu hwna sydd 'ar gefn yipsy o ddrws i ddrws, o ffair i ffair, ac o race-course i race-course ; neu hwnyna a adewir ar y Uawr i wario ei nerth yn crio a wylofain, neu i ymdrybaeddu fel mochyn bach yn y garth-ffos afìan ; lle bynag y mae, pa fath bynag o ofal a delir amdano, y mae y Logos Tra- gwyddol wedi cysylltu holl bwysigrwydd ac arucheledd dyn gyda y ffaith o fodaeth hwnyna. Baeh ydyw, ond y bod mawr hwnw dyn ydyw jr un pryd. Bach î Yr oedd holl bwysigrwydd amddifadiad y wlad bwysicaf yn y hjà diweddar o'i llywydd. yn yr amser pwysicaf ar ei bodaeth, yn y wreichionen fach a ffiachiai o'r gapsen ffrwydredig i'r pylor oedd yn y llawddryll a ddaHai y brad-lofrudd Booth at wegil yr ardderchog Lincoln. Bach ! yr oedd erchyllder ac afradlonedd y goelcerth reibus a droes yn 11 wch, mewn dwy awr, y masnachdy eangaf yn Liyerpfol, yn y fatchen oleuedig a ddisgynai oddirhwng bys a lawd y dyhiryn mewn pang o wallgof- rwydd boreu oes a'i rhoes ar dân. Bach, i'e, ond dechreu- ad mawredd aruthrol. Dyn bach yw hwn. Dyn, y bod yna sydd yn arglwydd y ddaear; y dyn sydd yn marchog- 2 L " * 'i AeiiWEDD, 1866.