Skip to main content

161 CYFABFODYDD GWEDDIO YE OBTJWCH- YSTAFELL YN JEEUSALEM. PEN III. Ye oedd cyfarfodydd gweddio yr oruwch-ystafell yn Jerusalem yn cael eu cynal gan rai oeddentyn gwblhyd- erus y byddai iddynt gael yr hyn y gweddient amdano. " O bydd ar neb ohonoch eisieu doethineb," ebai Iago, " gofyned gan Dduw, a hi a roddir iddo ef; eithr gofyned mewn ffydd heb ameu dim ; canys yr hwn sydd yn amea sydd gyffelyb i dòn y môr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt; canys na feddylied y dyn hwnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd." Iago i. 5—7. Y mae yr apos- tol yn y testyn hwn yn edrych yn gyntaf ar y teimlad o angen—" O bydd ar neb ohonoch eisieu doethineb." Cy- merir yn ganiataol nad oes dim modd gofyn heb fod yr eisieu yn cael ei deimlo yn gyntaf. Y mae y pwnc hwn wedi cael ei drafod yn y bennod o'r blaen, t.d. 111. Ond er teimlo eisieu, nis geilir gofyn yn iawn—gofyn yn llwyddianus, heb oíÿn mewn ffydd, hêb ameu dim. Felly yr oedd y rhai oedd yn cynal cyfarfodydd gweddio yr oruwch-ystafell yn gwneyd—yr oeddent yn myned yn hyderus at orseddfainc y gras. Cyn y gellir bod yn feddianol ar yr hyder diamheuol a sefydlog hwnw sydd yn rhoddi grym i'r taerineb, a nerth byw i'r dysgwyliadau, a llwyddiant sicr yn y pen draw, rhaid fod genym ryw sail i ymorphwys arni. Ehaid i hyder gael rhywbeth i ynibwyso arno—rhaid i ffydd gael gwrthddrych i afael ynddo ac i weithredu srno, cyn y gall wneyd dim. Yr oedd gan y gweddiwyr yn yr or- uwch-ystafell y peth hyn. Un o'r pethau diweddaf a ddywedodd Iesu Grist wrthj-nt oedd, " nad ymadawent o Jerusalem, eithi* dysgwyl am addewid y Tad, yr hwn, eb efe, a glywsoch genyf fì. Oblegid Ioan yn ddiau a fed- yddiodd â dwfr ; ond chwi a fedyddir â'r Ysbryd Glân, cyn nemawr o ddyddiau." Act. i" 4, 5. " Addewid y Tad yr hirn a glyiosoch genyf fi." Y fath eiriau cynwyslawna gwerthfawr! Diolch i Luc, îe, diolch i'r Hwn ddysgodd Luc i ysgrifenu am gadw yeiriau Iesu Grist ar yr achos yma i ni—" Addeiuid y Tad yr hwn a glywsoch genyffi.'' Disgynodd y geiriau hyn oddiar wefus- au Iesu Grist ar glyboedd, do, gwnaethant argraff ar ga- i Medi, 1866.