Skip to main content

101 YMDDYDDAN ÎIHWNG DVY CHWAER, ELLEN A MYFANWY. ElIìEN. (Ychwaerfach yn nesau at ei chwaer hynaf, ac yn gofyn), Myfanwy, Beth ydyw dysgyblu natur ? Myfanwy.—Dysgyblu natur ? Dysgu cadw y natur o dan lywodraeth briodol. Beth sydd yn peri i chwi ofyn ? E.—Mam a ddywedodd wrthyf neithiwr fod yn rhaid i mi ddysgyblu fy natur; ac yr oedd arnaf eisieu gwybod beth ydyw hyny. M.—O ! Oeneth ddrwg oeddech, mi wn------ E.—Nac oeddwn, Myfanwy, ddim yn ddrwg. Yr oedd- wn yn gwau wrth y bwrdd, ac rywfodd neu gilydd, yr oedd amrai o'r pwythau wedi colli oddiar y waell, a phan yr oeddwn bron wedi eu codi yn eu holau fe ddiffoddodd John y ganwyll, ac felly mi a'u collais draehefn, a chefaig ail drafferth i w codi. Yr oedd hyny yn ddigon i ddigio undyn. M.—O ! mi welaf sut yr oedd pethau yn bod. Wedi gwylltio yr oeddech, a mam yn dyweyd fod eisieu i chwi ddysgu peidio colli eich tymer am ryw bethau bach felly. E.—(Yn sydyn.) Yn wir, nid peth bach oedd i mi gael ail drafferth i godi yr holl bwythau rhai'ny. Ni wn i ddim pwy allasai beidio â gwylltio. M.—(Yn bur dyner.) Wel, Ellen fach, yrwyf yn addef fod yr ail drafferth yn beth digon cas, ond. ar yr un pryd gallaseeh beidio â gwylltio, pe buasech yn gwrando am f'unud ar eich rheswm. Yr wyf yn sicr na bu eich gwylltineb yn ddim help i chwi gael y pwythau ar y waell ynol. E.—Byddai yn dda genyf pe gallwn beidio â gwylltio, oblegid byddaf yn teimlo yn bur annenwydd ar ol hyny bob amser ; ond byddaf yn meddwl wed'yn nad oes gan neb ddim belp i'w natur. M.—Ie, dyna lie yr ydych yn gwneuthur y camgy- meriad, Ellen fach. Y mae help i natur—helpu natur yw ei dysgyblu a"i llywodraethu wrth reswm a phwyll. Dyna oedd mam yn ei feddwl wrth ddyweyd fod yn rhaid i chwi ddysgyblu eich natur—fod yn rhaid i chwi ei chadw o dan lywodraeth eich rheswm. E.—Ond mi fyddaf fì, pan wedi gwylltio fwyaf, yn dyfod ataf fy hun mewn munud. F MlHBFIN', 18S6.