Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

81 CYFARFODYDD G-WEDDIO YR OEUWCH- YSTAFELL YN JERUSALEM. " Ac wedi eu dyfod i mewn, hwy a aethant i fyny i oruwch-ystafell, lle yr oedd Pedr, ac Iago, »c Ioan, ac Andreas, Philip, a Thomas, Bartholo- mew, a Matthew, Iago mab Alpheus, a Simon Zelotes, a Judas brawd Iago, yn aros. Y rhai hyn oli oedd yn parhau yn gytun mewn gweddi ac ymbil, gyda'r gwragedd, a Mair'mam yr Iesù, a chyda'i frodyr ef." Actau i. 13. 14. PEN. I. Mhagarweiniad. Yn Llyfr Actau yr Apostolion yr ydym yn cael hanes adfywiad crefyddol mawr—y fath adfywiad ag oedd yn deilwng i hynodi sefydliad prif oruchwyliaeth Duw ar y ddaear. Y mae yr hanes yn cael ei roddi gan un oedd yn mhob modd yn gymhwys i'r gwaith. Fel awdwr, yr oedd gan- ddo farn, chwaeth, a medrusrwydd o'r radd fìaenaf, a chyda hyny adnabyddiaeth ddigonol o'r amgylchiadau y mae yn eu cofnodi, fel, pe na buasai ond hanesydd cy- ffredin yn unig, buasai Llyfr yr Actau ar bob cyfrif yn nodedig o werthfawr. Ond heblaw fod ei awdwr wedi ei gymhwyso i'w waith gyda chymhwysderau arferol awdwr o'r dosbarth cyntaf, yr oedd hefyd o dan gyfarwyddiadau uniongyrchol yr Ysbryd Glân, ac felly, y mae yr holl lyfr yn anffaeledig. Y mae yn anffaeledig yn nghywirdeb mynegiad y ffeithiau a gynwysa. Mae yma yr am- gylchiadau mwyaf rhyfeddol yn cael eu cofnodi. Diwrnod rhyfeddol oedd äydd y Pente cost. Amgylchiadau rhyfedd- ol oedd iachâd y dyn cloff yn mhorth y deml—-marwolaeth Ananias a' Saphira—rhyddhâd yr apostolion o'r carchar cyffredin ganol nos—yr amgylchiad cysylltiedig â thròed- igaeth Paul, a lluaws ereill; mewnj gair, y mae Llyfr yr Actau yn llawn o'r hanesion mwyaf rhyfeddol, ac íteb le i'r amheuaeth leiaf o berthynas i gywirdeb yr un ohonynt. Os nad oedd Luc ei hun yn dyst personol ohonynt, neu os na chafodd yr holl hanesion yn uniongyrchoi oddi- wrth yr Apostolion oeddent yn dystion ohonynt, fe'u cafodd gan yr Ysbryd Glân, fel y mae pob amgylchiad a dygwyddiad a goffeir, pa mor annghyffredin a rhyfeddol bynag, yn anffaeledig o ran eu cywirdeb. Y mae yr hanes yn anffaeledig hefyd o ran y detholiad o'r ffeithiau a gynwysa. Pe buasai cofnodiant ô'r holl ffeithiau a'r E Mai, 1866.