Skip to main content

61 Y 0WEITHIWR A'K SABBOTS. «AN T PAECH. JOHN EVANS (b). Pen. I.—Sylwadau arweimol. Y MAE dyn yn meddu dwy natur—enaid a ehorff, neu ys- bryd a phridd. Y mae'r anifail yn meddu corff, ond ni fedd enaid o ysbryd ynddo ; a'r angel yn meddu ysbryd, ond ni fedd gorff o bridd. amdano. Ond y mae cyd* gyfarfyddiad y ddwy natur yna yn ngbyfansoddiad dyn, yn ei wneyd yn fod gwahanol i'r angel a'r anifail, ae ya ddolen gydiol rhyngddynt. Os fel perchen corff o'r ddaear y mae'n debyg i'r anifail, ac os fel perchen ysbryd anfarwol y mae'n debyg i'r angel; fel perchen corff ae enaid, nid yw'n debyg i neb, ond iddo ei hun. Ac os ydyw yn llai ei gorff na'r anifail, ac yn gaethach ei ys^ bryd na'r angel, y mae'n rhyfeddach ereadur na'r un o'r ddau. Fel bod cyfansawdd yn meddu dwy natur, y mae'n foá pwysig yn perthyn i ddau fyd. Y mae ei gorff yn ei gysylltu wrth y byd defnyddiol, a'i ysbryd yn ei uno â'r byd mawr ysbrydol. Gwada y penboeth bob cysylltiad rhyngddo â'r " byd hwn;" a'r bydol bob perthynas rhyngddo â'r byd a ddaw; ond pe craffai y naül a'r llali ar ansawdd y ddwy natur sydd mewn cyfluniad yn e« cyfansoddiad, hwy welant fod eu hymddygiad yn hollol afresymol, ac yn cael ei gondemnio, gan beth mor agoa atynt, ac mor anwyl ganddynt, a'u cyfansoddiad hwy eu hunain. Fel y mae dyn yn perthyn i ddau fyd, y mae ganddo i'w cyflawni ddau ddosparth o ddyledswyddau, a'r rhai hyny yn cyfateb mewn ansawdd, ac yn dwyn cyfîírtaledd mewn pwysigrwydd, i ansawdd a phwysigrwydd y ddau fyd gwahanol (yn y naill ystyr a'r llall), y perthynant iddynt. Pel y mae un byd yn faterol a gweledig, y mae yna restr o ddyledswyddau tymorol, yn gorphwys ar ddyn, gyda golwg arno; ac fel y mae y byd arall yn ys- brydol ac anweledig, y mae dosparth o ddyledswyddaa moesol yn rhwymedig arno, gyda golwg ar hwnw. Gaa fod dyn yn perthyn i'r ddaear—wedi cael ei ffurfio allan o'i phridd ar y cyntaf, a thrwy gydol ei oes yn dibyna b ebbili., im,