Skip to main content

21 TEMPUS FTJGIT. GAN T PARCH. W. DAVIES (c). Eyw noswaith neu ddwy cyn terfyn y flwyddyn ddi- weddaf, eisteddwn yn unig yn agos i'r tân. Yr oedd hi dipyn yn hwyr, a'r teulu oll wedi myned i orphwys©. Noswaith ystormus ydoedd; chwythai y gwynt yn ffyr- nig, a churai y gwlaw yn uchel yn erbyn y ffenestri. Ehoddais fy llyfr i lawr am funud i wrandaw, am wn i, yn fwy astud fyth ar oer swn cwerylus y dymestl oddi- allan; gyda hyny, teimlwn ar unwaith y dystawrwydd tra dystaw a deyrnasai oddifewn. Dim swn o gwbl, ond swn y nwy hylosg yn burstio yn füamllyd allan o'r glo, a swn y cloc bach ar y sideboard yn tipian yn brysur, brys- ur. Ehedodd fy meddwl yn union at y cloc; ae oddi- wrth hwnw, aeth ymaith drachefn at glociau yn gyffred- inol; ac yna, o'r diwedd, at un hen gloe nodedig a welwn fiynyddau maith yn ol, yr hwn a dynasai fy sylw yn rhyfeddol ar y pryd. Nid oeddwn yr amser hwnw ond rhyw naw neu ddeg oed, a dweyd y mwyaf. Ehyw ffordd neu gilydd, tua'r adeg hono cefais fy hun yn aros mewn hen ffarmdy mawr yn nghanol y wlad. Yn, ac o amgylch hwnw, yr oedd pob peth yn newydd i mi. Ond o'r cwbl i gyd, hen gloc y gegin a dynai iÿ sylw i. Mynych iawn y cawn fy nun yn sefyll wrth ei droed, ac yn edrych i fyny yn syn idd ei hen wynebpryd hybarch. A'r gwyneb hwnw, a dyweyd y gwir felly, oedd y cwbl yn y cloc a dynai fy sylw hefyd. Yr oedd y peirianwaith cywraìn o'r tu-cefh iddo ynhoüol ddisylw genyf. Y gwyneb oedd y rhyfeddod! A chwareu teg i minau, hen wyneb iawn oedd gan yr hen glochefyd. Nid rhyw wyneb clieni plaen, gyda rhifnodau duon wedi eu paentio arno, fel gwyneb ein cloc ni gartref. Na choelia i yn wir. Nage, nage, ond gwyneb o bres; na, nid pres chwaith, ond rhywbeth gwynach eì Hw na hwnw, yn debycach i arian nag i bres. Ar y gwyneb gwawrwyn, dysgìaer hwnw, yr oedd rhyw hen rifnodau cywrain ac annghyffredin wedi cael eu dwfn-gerfio gan ryw law fedrus a chelfyddgar iawn. Ond uwchben y rhai hyny, yn ylle haner crwn hwnw, yr oedd y gorchestwaith yn boä. Yno B [Chwefrob, 1866.