Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

221 YMDDYDDAN EHWNG ELLEN A MAIE AM EI " SEEEN EF." tLLEN.—A wyddoch chwi am ba beth yr oeddwn i yn meddwl, Mair ? Mair.—Na wn i, yn siwr, Ellen, am ba beth ? E.—Am y Seren hono a arweiniodd y doethion o'r dwyrain i offrymu anrhegion o aur, thus, a myrr, i Iesu Grist pan yr oedd yn faban bach. M.—Yn wir, Ellen, yr oeddech yn meddwl am beth hynod o ddifyr. Ond beth yn y byd a barodd i chwi feddwl am hono yn y fan yma ? E.—Edrych yr oeddwn ar y seren fawr acw, welwch chwi! Onid yw hi yn brj dferth ? M.—Ydyw, yn wir, y mae yn hardd a phrydferth iawn, ac y mae yna rywbeth pur brydferth hefyd yn eich medd- wl chwithau pan yr ydych yn gallu myned oddiwrth y seren dlos acw at y seren ryíedd y mae Matthew yn son amdani. E.—Wel, mae fy mam wedi fy nysgu i godi fy meddwl at bethau y Beibl a'r nefoedd oddiwrth bob peth a welaf. Ac nis gallaswn yn fy my w wrth weled y seren dlos acw, beidio â meddwl am ei Seben Ef. M.—Ond beth oedd rhai^o'ch meddyliau am y seren hono, Ellen ? E.—Wel, yr oeddwn yn meddwl fel y mae pob peth yn dyfod i wneyd gwasanaeth i les'u Grist. Gwaith y seren oedd dysgu y ffordd i'r doethion fyned i roddi anrhegion iddo ef. M.—Yn wir erbyn i chwi ddyweyd^mae hynyna i'w weled yn bur eglur. E.—Ydyw. Yr oedd yno frenin am ladd Iesu Grist, ond yr oedd yno lawer mwy am ei gadw yn fyw. Yr oedd y doethion a'r aur—yr angel a'r seren, heblaw Jo- seph a Mair, am ei gadw yn fyw. M.—Ni ddarfum i erioed feddwl pethau fel yna o'r blaen, ond mi a welaf eich bod yn union yn eich lle; ac ý mae yn bur dda genyf eich clywed. Am beth aralì yr oeddech yn meddwl ? if Rhagotb, 1869.