Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

141 DYFFEYNOEDD Y BEIBL. ( Cydymddyddan.) A fedrwch chwi roddi rhy w hanes am Ddyffryn Achor? A. Medrwn; Achor ydoedd ddyffryn rhwng Jericho ac Ai. Cafodd ei enw oddiwrth Achan, yr hwn a ddygodd gymaint o ofid ar Israel. Jos. vii. 24. G. Yn mha le yr oedd Dyffryn Afen ? A. Yn mhen uchaf Syria, heb fod yn mhell o Fynydd Libanus. G. Yn agos i ba le y mae Dyffryn Ai ? A. Dyffryn Ai a orweddai ychydig i'r gogledd o ddinas o'r un enw ar fìîniau gogleddol llwyth Benjamin. Yn y dyffryn hwn y gwersyllai Joshua pan yn gwarchae y ddinas. Jos. viii. 11. G. A wyddoch chwi yn mha le yr oedd Dyffryny Cawri, neu Dyffryn Eephaim ? A. Yn agos i Jerusalem. Jos. xv. 8; xviii. 16. G. Yn mha le yr oedd Cir ? A. Oir, lle yr alltudid trigolion Damascus, nid oedd yn gorwedd yn briodol o fewn Assyria, er ei fod dan lywoar- aeth Assyriaidd. Mae yn debyg mai bro ydoedd ar lan yr afon Cur, neu Curos, yr hon sydd yn Uifeirio rhwng y Môr Du a'r Môr Caspiaidd, ac yn ymarllwys i'r olaf, wedi ymudo â'r Araxes yn gyntaf. Mae y lle yma yn agos i'r fan lle y gorwedda Georgia yn bresenol. 2 Bren. xvi. 9; Amos i. 5. G. Yn mha le y mae gwastadedd Dura, ac am ba beth yr oedd yn hynod ? A. Dura ydoedd wastadedd eang o amgylch Babilon, Ue y cyfododd Nebuchodonosor ddelw aur. Dan iii. 1. G. A ydych chwi yn cofio darllen yn y Beibl am Ddyffryn Ela ? A. Ydym, mae y dyflryn Ela yn gorwedd oddeutu tair müldir o Bethlehem, ar y ffordd i Jaffa; ac y mae yn nodedig am mai yno y bu Dafydd yn ymladd â Goliath, ac y lladdodd ef. 1 Sam. xvii. G. Pa le y mae Dyffryn Escol? A. Yn nhir Juda, yn ddeheuol. Oddiyno y daeth yr yspiwyr a swp o rawnwin ar euhysgwyddau i'ranialwch. Num. xiii. 24; xxxii. ft B Awst, 1869.