Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

41 CBEPYDD POBEUOL. §dab,llentdd Ieuano y Winllan, â thydi mewn modd arbenig y mae a fyno yr ychydig sylwadau canlynol. Mae genyf un o'r gofyniadau pwysicaf i'w osod at dy ystyriaeth. Mae yn un ag y dylit dalu y sylw manylaf iddo: mae dy ddedwyddwch yn ymddibynu arno. Dyma ydyw, A ydwyt yn parotoi ar gyfer y sef- yllfa wynfydedig mewn arall fyd ? Py nghyfaill ieuanc, na osod o'r neilldu y sylwadau hyn oherwydd eu testyn. Ni ddylai meddyliau am Dduw ac am y nefoedd byth fod yn ddibwys yn dy olwg. Na ddywed dy fod yn meddwl darparu ryw dro, ond fod digon o amser i hyny eto. Meddwl felly ydyw ymollwng gydag un o brif dem- tasiynau y gelyn diafol, a chyflawni yn hollol un o'i ddy- muniadau penaf. Os gall ef dy ddarbwyllo i fwrw ymaith ystyriaethau crefyddol yn awr, efe a'th ddar- bwylla i wneuthur felly drachefn: ac felly yn y blaen, y naill dro ar ol y llall, nes y bydd i'r gyfryw arferiad dyfu yn gryfach, ac yn y diwedd ddinystrio yr argraflìad- au crefyddol sydd yn awr yn gweithredu yn rymus arnat. Pa fodd y mae cynifer o filoedd yn ngwlad efengyl yn marw yn annychweledig ? Oherwydd eu bod wedi oedi dychwelyd at Dduw nes yr aeth yn rhy ddiweddar. Nid ydwyt ti, pwy bynag wyt, yn bwriadu oedi am byth: nid oeddent hwythau chwaith. Yr ydwyt ti yn meddwl y daw y dydd pan yr edifarhei. Yr un modd yr oeddent hwythau yn meddwl. Yr ydwyt ti yn gwybod llawer am flbrdd iachawdwriaeth, felly hefyd y gwyddent hwy- thau; ond er y cyfan, maent heddyw yn golledig. Oan kyny> paid â gwrthod ystyried yr hyn a gyflwynir i'th sylw yn awr, sef crefydd foreuol. Pe buasai y Gwaredwr bendigedig yn awr ar y ddaear, ac yn dyweyä y geiriau hyny drachefn, *' Deuwch aíaf fi bawb a'r y sydd yn flinderog ac yn llwythog—cymerwch fy iau arnoch," credwyf y buasai i lawer fyned ato; ond, ddarllenydd, a fuasai i ti fyned ? Os ieuanc ydwyt, nid ydyw plant yn cael eu gwrthod. Pel na waharddodd Crist iddynt gynt, felly nid ydyw eto yn gwahardd idd- ynt. Mae Dwyfol ddoethiaeb o hyd yn dyweyd, "Y sawl a'm carant i a garaf finau ; a'r sawl a'm ceisiant yn foreu a'm cânt," Diar. viü. 17. Mae yn olygfa o laẃen- ydd gan Dduw, gan angylion, a chan seintiau, i weled, C MAiniTH, 1869.