Skip to main content

201 SEL GENADOL AC HUNAN-YMWADIAD Y PAECH. SAMTJEL LEIGH. fAB sel, hunan-ymwadiad, ac ymdrecli diflino mewa achos da yn gyrueradwy gan Dduw, boddhaol gan ddynion, ac yn deilwng o efelychiad. Cawn eng- raifft neillduol iawn o hyn yn hanes bywyd y Parch. Sa- muel Leigh, gynt Cenadwr y Wesleyaid yn Neheudir Cymru "Newydd. Ychydig dros haner can mlynedd yn ol, yn y Gynadl- edd a gynaliwyd yn Bristol, penodwyd y diweddar Barch. Samuel Leigh i fyned drasodd i ogledd Àmerica, i lafurio yn ngwaith y weinidogaeth. Ar ei apwyntiad aeth i fyny i Lundain i barotoi gogyfer a'r fordaith, ac ur ol gorphen gyda'r darpaiiadau hyny, caíodd ganiatâd gan swyddog- ion y Genadaeth i ymweled ac i fíarwelio â'i fam cyn ymadael â'r wlad ; a chyda'r caniatâd yna, derbyniodd hefyd orchymyn ganddynt fel y canlyn :—"Bhoddwch i ni eich address a'ch addewid y dychwelwch yn ol i Lun- dain gyda'r cyfieusdra cyntaf ar ol y derbyniwch ein Uythyr yn ceisio hyny genych." Ar hyn yr ydyni yn ei gael ar y stage coaclt yn myned tua Staffordshire, i'w le genedigol, ac yn teithio trwy'r nos, ac yn cyraedd adref yn ddiogel; ond erbyn myned yno, yn cael ei fam mewn tristwch dirfawr. Yr oedd jn waith caled iawn ganddi gymodi ei meddwl gyda*r ffaith o ym- adawiad ei mab i fyned dros y môr ; ac i chwanegu at eí thristwch, yr oedd ei merch yn ymyl marw : pob gobaith am adferiad wedi darfod, a phob awr yn dysgwyl i'r enaid gj'-merj'd ei hedfa, a gadael j tŷ o glai am " dy nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd." Yn y goiid mawr hwn y cafodd Mr. Leigh ei anwyl fam, pan y daeth i ífarwelio â hi y tro yma. Tua saith o'r gloch yr un prydnawn, derbyniodd lythyr gyda'r post oddiwrth swyddogion y Gymdeithas, yn hysbysu eu bod wedi cymeryd ei bassage, a thalu y îlong-log, a bod y llong ar hwylio yn ddioed, a'u bod yn ei ddysgwyl yntau i Lundain gyda'r cyüeustra cyntaf yn ol ei addewid. Wedi darllen y llythyr, mae y mater yn gorwedd yn drwm ar ei feddwl; hawdd oedd gweled hyny wrth sylwi ar ei ysgogiadau, yn codi yn frys- iog oddiar ei gadair, ac yn cerdded ar hyd yr ystafell, gan syn-fyfyrio ar gynwysiad y ìlythyr, a sefyllfa drallodus pethau yn ei gartref. l Tachwedd, 1857.