Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

*» 181 GAEDD GETHSEMANE. cf^- Aa 3rn ymddangos na ddarfu i Grist, yn ystod ei ym- <ty- R i weliad i Jerusalem, dreulio un noswaith yn y ddinas. &'~ y Ambell waith cerddai i Bethania, ond yn y cyffredin, gwnelai fynydd yr Olewydd ei gartref. Yr ydym yma yn cael llineli neillduol yn nghymeriad ein Gwaredwr ; a chyfeirir ni at ysbotyn ag sydd yn fwy cysylltiol â'i fywyd dirgelaidd na'r un man arall. Ar ol Uafur blin yn ystod y dydd yn heolydd llawnion y ddinas, ar ol dadleuon poenus gyda'r Ysgrifenyddion a'r Phari- seaid yn yr adeiladau cyhoeddus, yr oedd yn arferol o ymneülduo yn yr hwyr gyda'i ddysgyblion i'r ardd, a threulio y nos yno mewn unigedd heddychlon. A phan y torai ynfydrwydd crefyddol allan yn erledigaeth gy- hoeddus; pan y gwaeddai y boblogaeth orphwyllog am ei waed, ac y cyfodid ceryg ì'w labyddio, elai trwyddynt, a chaffai noddfa dawel yn nghysgodion trymaidd Gothse- mane. Ioan viii. 59 ; Luc x. 25—38. Y mae y ffaith fod Mab y dyn yn gwneyd ei breswylfod mewn gardd—ei fod yn cael ei orfodi i orphwys, cysgn, a gweddio ar ochr y bryn, o dan sercnog nen y nefoedd— yn ymddangos yn beth hyrod iawn ilawer. Ymcìdengys fel esboniad ymarferol ar ei eiriau tarawgar ef ei hun : " Y mae gan y llwynogod fí'auau, a chan adar y nefoedd nythod; oncl gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr." Ond gallwn ofyn, pa fodd bynag, Onid oedd yna dỳ yn Jerusalem yn agored iddo, a rhyw gyfaill a fuasai yn barod i'w groesawi ? Onid oedd Bethania yn ymyl ? Onid oedd cartref iddo yn nhŷ Martha ? Paham na fuasai yn myned i Bethania ? Bydd i'r rhai sydd weddol gyfar- wydd â bywyd Dwyreiniol ddeaîl yr holí bwnc yn rhwydd. Mae agos holl drigolion Palestina yn cysgu y rhan fwyaf o'r flwyddyn yn yr awyr agored, ar benau y tai, yn y gerddi neu y ìnaesydd. " Mae yn beth cyffredin i deuluoedd adael eu tai yn y dref neu yn y penẅef yn gynar yn y gwan- wyn, a byw o dan goed neu mewn fwthynod agored trwy'r haf. Pan fo teithwyr yn bwriadu aros am ychydig ddyddiau yn yr un man, ardrethant ardd yn gyffredin, a thrigant ynddi' Yr wyfwedi gwneyd hyny yn aml fy hun- an, a chysgu heb ond y ddaear yn obenydd, a'r nofoeddlas, glir, serenog, yn do uwchben. Nid ces yno ddim gwlaw, nadim gwlith'; mae y ddaear yn sych; ac awyrfalmaidd y wlad agored yn llawer mwy dymunol nag awyr glos, K * Hydreì', 1867.