Skip to main content

1G1 ATHANASITJS. »YWEDIR mai Archesgob Alexandria oedd Athanasius. Darfuiddo amddiflýn athrawiaeth dwyfoldeb Crist ynerbyn yrAriaidyndraphenderfynol aUwyddianus. Pum gwaith jt alltudiwyd ef gan y blaid hereticaidd. Cyfarfyddodd beryglon parhaus yn ei gyflwr alltudiedig, a chadwyd ef am ugain mlynedd yn y cyfìwr hwnw. Yn y flwyddyn 335, cafodd ei wysio i ymddangos o flaen cymanfa Tyrus, lle y dygwyd eyhuddiadau echryslon ac anwireddus yn ei erbyu, ac yn eu mysg, mai efe lofrudd- iodd yr esgob Arsenius. Yr oedd gan ei elynion law-gist fechan yn cynwys llaw ddynol wedi ei chadw mewn halen, yr hon y dywedid mai llaw Arsenius ydoedd, a chyhuddid Athanasius o gario y llaw hon gydag ef o amgylch, er mwyn amcanion swyngyfareddol. Tarawyd y gymanfa â syndod a dychryn, a buddugoliaethai y gelynion ; ond y mae Athanasius, yn dawela hunanfeddianol, yn gofyn i'r barnwyr a joeddent yn adnabod Arsenius yn Dersonol, i'r hyn yr atebodd rhai ohonynt yn gadarnhaol. Ar hyn agorodd Athanasius y drws, a dyna ddyn yn d'od i'r ys- tafell, ac Athanasius yn gofyn, " Ai hwn yw y person a lofruddiais, llaw yr hwn a dorais ?" Gan ddywedyd felly, tynodd fantell y dyn o'r neilldu, a dangosodd ei ddwylaw i'r gynulleidfa. Edrychai ei gyhuddwyr yn grynedig a chyflrous, canys Arsenius ei hun oedd y dyn yn y llys, yr hwn trwy ragluniaeth ryfedd oedd newydd gyraedd Tyrus. Er hyn i gyd condemniwyd Athanasius, trwy gyhuddiadau èelwyddog ereill, a chafodd ei alltudio i Treves, ar lan yr afon Ehine. Dychwelodd wedi hyny i Alexandria, ond torodd erledigaeth arall allan yn fuan ìawn. Ymosodwyd arno yn ei eglwys yn y nos, ynnghanol ei gynulleidfa, a diangodd rhag syrthio i'w dwylaw gyda chryn anhawsder. Ffôdd i anialwch yr Aifît, at Anthony y Meudwy, ac yno y bu fyw am chwe mlynedd, a bu farw yn y flwyddyn 372, yn fuan iawn ar ol cael caniatâd i ddychwelyd at ei eglwys a'i bobl. Rlios-y-medre. " CYBIAN. YMDDYDDAN AE YE YSGOL SABBOTHOL. fHOMAs.—Wel, Solomon, sut yr ydach ch'i heddyw ? SoiiOMON.—O, yr wyf fì yn dda iawn, diolch i chwi, a gobeithiaf eich bod chwithau yr un modd. i M»m, 1867.