Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

81 DALEN 0 DDYDDLYFE YE HAUL. I.—Y DEMTASIWN". 5Jfîfj'-Äi 1.—Un noswaith yn ystod yr wythnos o'r blaen, 4||l fel jr oeddwn yn araf ymsuddo i fy ngwely gor- ^w llewinol, gan baentio y nefoedd â'r lliwiau mwyaf dysglaer, ac arianu godreuon y cymylau tywyllion a nof- iant yn yr " awyr rydd " gerllaw, tynwyd fÿ sylw at dý mewn heol gauedig a thywyll yn ninas boblog Llundain. 'Eoedd un ffenestr wedi ei thafiu yn agored, a dyn ieu- anc o bedairarbymtheg i ugain oed yn eistedd ar gadair gerllaw, a'i wyneb yn gwisgo agwedd gythryblus a phoen- us iawn, wedi ei achosi, mae'n debygol, gan lythyr a ddaliai yn ei law. Ar ol eistedd am rai munudau yn yr agwedd yma, clywais ef yn sibrwd wrtho ei hun, " Wel, rhaid i mi fyn'd; os nad af, bydd Brown a Smith yn chwerthin am fy mhen, gan fy ngalw yn Fethodist* ; ac ar ol y cwbl, nid oes llawer o niwaid yn y peth, oblegid âf i'r capel yn y boreu, ac nid yw ond trip i lawr yr afon, a threuiio y prydnawn yn y wlad." Ond parhaoddi gadw ei law ar ei dalcen, a'i benelin ar y bwrdd am ych- ydig funudau yn hwy, pan y cododd yn sydyn, a dy- wedodd, " Nid yw o un dyben i mi wirioni fy mhen yn nghylch y peth, rhaid i mi fyn'd." Fel yr oedd yn codi, dyrchafodd ei lygaid ataf fi, ac wrth wneyd hyny, cyf- newidiodd holl agwedd ei wynebpryd yn hollol; chwareuai gwên dawel ond haner pruddaidd ar ei wyneb hawddgar, ac, ar ol eistedd i lawr drachefn, gwyliodd íi am beth am- ser. Ond yr oeddwn yn gallu gweled, er ei fod mewn ym- ddangosiad yn edrych arnaf fì, fod ei feddyliau mewn man ■arall—'roedd golygfa arall o fiaen ei lygaid. Yr oedd heol fawr Llundain wedi difìanu, ac yn ei lie, í'wthyn bychan gwledig a phrydferth yn Nghymru wedi cyfodi. Yr oedd yno o ran ei feddwl: unwaith yn chwaneg yr oedd yn cael golwg ar y llechweddau grugog a godant ynymyl eigartref clyd : unwaith yn chwaneg, yr oedd djŵoedd grisialaidd y llyn y bu yn ymddifyru ynddo ac o'i gwmpas yn dysgleirio o'i flaen : unwaith yn. rhagor, yr oedd yn eistedd yn yr ardd gyda'i fam weddw, yn gwylio, fel ybuy noswaith o flaen ei ymadawiad i'r ddinas boblog, jx hsaú machludol: unwaith eto yr oedd geiriau y fam yna yn swnio yn ei • Yr en-w a roddir ar Wesleyaid yn Lloegr.—Gol. E " Mai, 1867.