Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

61 GWEN.— GENETH EACH Y TLOTTY. §N nechreu y flwyddyn 1854, pan yr oedd eira dwfn wedi bod ar y ddaear am chwech wythnos, rhwng tri a phedwar o'r gloch prydnawn, pan yr oedd hirnos Ionawr megys yn methu effeithio gwyll ar y ddaear wen, er " Cilio'r hatil draw dros ael 'bryniau hael Arfon," y mae yn eistedd ar fainc ystafell y porth, neu watting hall, Tlotty Cymreig, dri o blanti, newydd eu dwyn yno gan Overseer eu plwyf. Mae yr olwg ar y rhai'n dipyn yn wahanol i'r hyn a welir ar y rhai a ddygir yno weithiau. Yn fynychaf, plant carpiog eu gwisg, a drylliog eu hesgid- iau, a garw eu moesau, wedi tyfu mewn gwall amgeledd, yn dangos nad yw cynyrchion anniweirdeb yn wrthddrych- au gofal nac anwyldeb neb amdanynt. Ond y mae y rhai'n yn eithriad; mae eu gwisgoedd, croen eu hwynebau, a gwallt eu penau, yn llefaru yn bendant eu bod hwy yn gwybod rhywbeth am gartref, a hwnw yn un lled gysurus. Bachgen oedd y mwyaf, bachgen cryf a lluniaidd o gorff, tua deuddeg oed: daliai ef ei ben i lawr; yr oedd yn hawdd gweled ei fod ef yn teimlo ei ddarostyngiad. Yn y canol, yr oedd bachgen oddeutu pedair a haner oed, ac yn un o'r plant harddaf a fagwyd gan fam erioed: yr oedd ganddo ben tlws, talcen llawn, gwallt melynwyn, tenau, sidanaidd, a hwnw yn cael digon o le i chwalu yn ddillynaidd ar ei arleisiau ; clamp o lygad glas, mawr, a ffagl yn ei ganwyll, ond wedi ei lapio mewn amrantau tyner a llawnion ; bochau yn llon'd eu dillad, a gên fech- an fain yn darfod heb i rywun feddwl. Yn nesaf at hwn yr oedd geneth fach, rhwng chwech a saith oed. Yr oedd hi yn lled debyg i'w dau frawd, ond yr oedd ganddi wallt a llygaid lled dduon, a'i chroen yn wynach, heb fod mor hufen-liw a'r eiddo ei brawd bach: yr oedd yr ên fach fain ganddi hithau. Tafìai un fraich dros wddf ei brawd ieuengaf, a gafaelai â'r llaw arall yn ei law feddal ef. Deallwyd eu hanes yn fuan, mai plant amddifaid oeddent, wedicolli eu mam er's rhai misoedd, a'u tad wedi colli y ffordd ar y mynydd un noson rhwng Llan------ a Llan------, ac wedi trengi yn yr eira. Dywedid nad oeddent ýn d'od i aros yn y tlotty ond am ychydig o amser; y byddai i rai o'u perthynasau, pa rai oeddent yn lled dda allan, ddyfod i'w cymeryd atynt eu hunain ; am » Ebeili,, 1867.