Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN Rhjp. 7.] GOHPHENAF, 188S Cyf XLI. HUGli HüGHES. jN o'r enwau mwyaf parchus ei goffadwriaeth yn hanesyddiaeth Methodistiaeth Wesleyaidd yn Nghymru ydyw yr eiddo y gweinidog clodwiw y niae genyin yr hyfrydwch oanrhegu ein darllen- wyr a'i ddarlun ; ac i lawer o'n darllenwyr bydd dyddordeb ychwanegol yn cael ei deimlo yn yr hen bererin ymadawedig pan grybwyllwn mai wyr iddo ef ydyw y gwein- idog galluog a phoblogaidd hwnw—y Parch Hugh Price Hughes, M.A., Llundain, ac mai brawd iddo ydoedd yr enwog Barch. Griffith Hughes, un o weinidogion mwyaf poblog- aidd y Dalaeth Ügleddol yr " amser gynt." Hugh Hughes a anwyd yn Llanygoitre, plwyf Llannor, Sir Gaernarfon. Pan yn ieuanc symudodd i Liverpool, lle y treuliodd amryw flynyddoedd yn ofer a di-Dduw. Ond nid oedd efe heb ddwysbigiadau yn ei gydwybod yn fynych oherwydd ei wargaledwch, a'i anystyriaeth, a llawer saeth chwerw a gafodd yn yr oedfaon yn nghapelau y Methodiatiaid Calfinaidd a fynychid ganddo.