Skip to main content

Y WINLLAN. 221 A GOLLWYD AC A GAFWYD. TSTOÎII I BÜBL IEUAINC. GAN GOMER. PENNOD XII.—" CANTS FY MAB HWN A GOLLASID AC A GAED." jHAID i ni gwttogi llawer ar yr hyn sydd genym i'w adrodd yn weddill o'r " ystori " hon. Ni raid i ni anghofio y ffaith fod y gweinidog fn mor ffodus a dwyn y newydd am whereabouts Watcyn i'w rieni, wedi myned i ddanfon Harry Green i'r station, ac. ar y ffordd yno, wedi rhodii iddo lawer o gyfarwyddiadau gwir angenrheidiol am y llwybr goreu a dio?elaf i'w ddilyn wedi iddo gyraedd Llundain, ac yn ei ymofyniad yno am yr heol lle y llettyai ei fab. Tr oeddent just mewn p;-yd i'r up traìn, a chydag ysgydwad llaw, a " Duw fyddo gyda chwi " wrth Harry, ymadawsant. Tn myeg y pethau a hysbysodd y gweinidog caredig i Mr Green ar ei ffordd i'r orsaf oedd trigle ein hen gyfaill y Parch John Gwilym, yr hwn oedd yn eithaf adnabyddus i'r bugail da fel un o weinidogion mwyaf llafurus a llwyddianus yr enwad y perthynai efe ei hun iddo yn Llundain; a phenderfynodd Mr Green wneyd ei ffordd i breswylfod y boneddwr parchedig hwnw mor gynted ag y gallai ar ol cyrhaedd y Brifddinas. Nid bedd Llundain yn hollol ddyeithr i dad Watcyn, oblegid yr ydoedd wedi bod yno droion yn ystod ei oes, ac felly yr oedd ganddo syniad clir am fawredd aruthrol y ddinas; ond gan mai " ar fusnes" yr oedd Mr Green wedi talu yr ymweliadau hyny,'nid ydoedd wedi cynefino ond ychydig iawn a rhwydwaith annirnadwy ei heolydd ac felly yr oedd efe o dan orfod teimlo ei hun yn ddyeithr iawn, mewn cymhariaeth, wedi iddo gyrbaedd gorsaf St Pancras. Ond ni bu yn hir mewn petrusder gyda golwg ar y cyfeiriad goreu i'w gymeryd er mwyn dyfod o hyd i drigle y Parch John Gwilym, oblegid cafodd ei gyfeirio yn gywir o'r naill heol i'r llall gan y polismon yma a'r polismon acw, nes dyfod o hono i'r heol lle yr oedd y masnachdy mawr a fu yn achlysur cymaint o flinder a darostyngiad i Watcyn—mas- nachdy Mri. Mammon &. Oo. Tn y man y mae'r masnachdy ei hun, megis yn ddiarwybod jddo, yn dyfod i'w wyneb; a'r foment Ídisgynodd llygaid Mr Green ar enw y firm mewn llythyrenau reisìon ar driws talcea yr adelii llydan, siethodd i'w Bhagfyr, 1893.