Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T WINLLAN. 181 MR WILLIAM THOMAS, POST OFFICE, LLANGEFNI. MAE yn hyfrydwch genyf, trwy garedigrwydd per- chenogion y Genedl Gymreig, allu cyflwyno i ddar- llenwyr lluosog y Winllan, ddarlun o foneddwr tra theilwng; un sydd yn llenwi y gair boneddwr, yn ei ystyr oraf, i'w ymylon—Mr William Thouaas, Post Office, LlaDgefni. Ganwyd ef yn Llangefni, yn y flwyddyn 1838. Enwau ei rieni oeddynt Edward ac Ann Thomas. Bu ei dad yn flaenor ffyddlon a llwyddianus yn eglwys Wesleyaidd y dref am flyn- yddau meithion. Cafodi yr eglwys a'r dref golled enfawr yn ei farwolaeth. Tr oedd ei fam hefyd, fel y dywedodd y Parch. O. Evans ddiwrnod ei hargladd, yn un o ragorolion y ddaear. Cafodd Mr Thomas addysg foreuol well na'r cyffredin. Bu am rhyw hyd yn Normal College, Bangor, a sicrhaodd drwydded i fod yn ysgolfeistr j llanwodd y ,swydd hono mewn Hydref, 1893.