Skip to main content

Y WINLLAN 81 PREGETH T DYN DALL. JN y dyddiau hyn y mae gwehyddion a gofaint, &c, dychweledig yn pregethu yr efengyl gyda dylan- wad mawr, ae y mae y bobl gyffredin yn gwrandaw arnynt gyda llawenydd. Y mae gan ryw gardotyn dall, yr hwn a arferai eistedd ar ymylprif-ffordd tref wledig, bregeth fer i'r sawl o'n darllenwyr ag sydd yn ceisio iachawdwriaeth i'w heneidiau; byddaf finau yn reporter. Rhedai ei bregeth fel y canlyn:— Ganwyd fi yn ddall, a thrigwn yn nhref Jericho. Enw fy nhad oedd Timeus, ac yr oedd yntau yn ddall o mlaen i. Fy nghyfeillion, yr ydycb wedi bod yn däall o galon er pan eich ganed; ac yr oedd eich tadau o'ch blaen yn naturiol ddall mewn pechod er dyddiau Adda. Un diwrnod, fel yr eisteddwn ar ymyl y ffordd yn cardota, mi a glywn swn trwst tyrfa yn myned heibio, a swn lleisiau. Ymofynais pwy oeddynt, a dy- wedwyd wrthyf mai Iesu o Nazareth oedd yn myned heibio. Yr oeddwn wedi clywed pethau rhyfeddol am dano; a dywedais wrthyf fy hun, yn awr.yw fy nghyfle. Gelwais allan arno mewn llais uchel, "Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf!" Mai, 1893.