Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AM RHAGFYR, 1865. MYNYDD YR OLEWYDD. Y DREM OLAP ARNO. Tnowisr ein wynebau yn awr tua hen ddinas Jerusalem; ac edrychwn yn ol os gallwn heibio i dros ddeunaw cant o flynyddoedd. Cymerwn ein safle ar ben Moriah, ychydig bach i'r gogledd i'r deml. I lawr acw oddidanom y mae'r ddinas yn gorwedd; yn nghwr isaf y ddinas, ac yn agos i'w phen gogleddol hi, y mae heol i'w gweled yn rhedeg o orllewin i ddwyrain, megys ar ei thraws hi. Cadwn ein llygaid ar yr heol hono. Yn y man, dacw dwryn bychan o ddynion—rhyw ddwsin, efallai, neu lai—yn ymddangos ynddi, ac yn tramwy trwyddi. Craffwn ar y dynion yna. Daliwn i syllu arnynt: canys er mor dlawd a chyffredin yw yr olwg arnynt, eto i gyd, y maent yn deilyngach o sylw na neb arall o fewn y ddinas fawr i gyd. Mae'n ddigon tebyg fod yn y Jerusalem yma, fel yn mhob man arafi. bron, aml i un ag sydd yn meddwl cryn dipyn ohono ei hunan, ac ambell i un hefyd ag y mae ereill lawer iawn yn meddwl cryn lawer ohonynt hefyd ; ond nid oes o'i mewn i gyd gymaint ag un mor deÜwng o sylw a'r deuddeg tlawd, dirodres acw. Iesu Grist a'i ychydig ddysgyblion ydynt. Daliwn i sylwi arnynt. Cerddant rhagddynt yn araf a thrymllyd. Ant dan ymddyddan heibio i " lyn Bethesda," trwy " Borth y Defaid," dros afon Cedron, heibio gardd Gethsemane; ac yna dechreu- ant ddringo hen lethri cofiadwy mynydd yr Olewydd. Mae'r ymddyddan yn parhau o hyd. Yr Iesu sydd yn siarad fwyaf, íe, bron y cwbl. x Mae ei eiriau hefyd yn amrywiol iawn. Cynyrchant wên yn awr, a deigryn yn Lman. Wele'r cwmni o'r diwedd ar gopa y mynydd. isgynant ychydig ar yr ochr arall iddo.' Ac yno—0 ! ryfectdod! dacw'r Iesu ŷn aros, a'i ddysgyblion yn ym-