Skip to main content

AM MEDI, 1865. GAIR BACH AM Y TYMOE HAU. GAN Y DIWEDDAB WILLIAM THOÎIAS, CAEBGYBI. Byddaf yn ineddwl bob amser, pan yn codi i fyny i geisio rhoddi gair o gynghor, y dylai fod rhywbeth pen- odol yn gorphwys ar fy meddwl feí prif beth i siarad arno. A'r hyn a gaiff fod o dan sylw am y tro hwn fydd ychydig o hanes rhyw ddau ddyn lled od y dygwyddais ddarllen amdanynt. Bhyw ddau ddyn oeddent yn hau—y naül yn hau i'r cnawd, a'r llall yn hau i'r ysbryd. Y mae yn ymddangos fod y ddau yn bur ddiwyd yn eu dydd a'u tymor. Yr oedd yr un oedd yn hau í'r cnawd yn llawn cymaint ei drafferth a'r un oedd yn hau i'r ysbryd, oblegid ffordd troseddwr sydd galed, ebai y gŵr doeth. Nid rhyw beth a wneir dan hepian a chysgu yw hau i'r cnawd, eithr y mae yn wasanaeth galed a drud iawn. Y mae yn aml yn myned â holl gyflog wythnos y bachgen mewn un noswaith, ac fe allai yn tori ei esgyrn ef ar y fargen. Y mae yn ei gadw mor noethlwm fel na fedd braidd esgidiau i'w rhoddi am ei draed, ac mor isel ei gy- meriad nes y mae yn watwar yr holl gymydogaeth, ac yn gywilydd wyneb i'w holl deulu. 0 ! gyfeillion, ai tybed y byddai yn ormod i mi eich cymhell i hunanymhoìi pa fodd yt-'ydym ni wedi hau yn y blynyddoedd a dreuliasom ? Onid yw yn bryd i ni ystyried, fod blynyddoedd ein hoes yn ymlithro ymaith o un i un, heb bron yn wybod i ni. Ac eto, y maent wedi gadael y fath argraff ar rai ohonom, fel y byddwn yn gorfod synu ambell waitb, wrth weled ein hunain wedi ein dwyn i'r fath drefn. ' R-wyf wedi myned yn hen ddyn, Heb wybod braidd i mi fy hun Pa amser na pha bryd