Skip to main content

ÁIT GORPHENHAF, 1865. TOSTUEI IESU GEIST. ~Wrth ddarllen hanes Iesu Grrist, yr ydym jm cael ei fod yn byw yn mhlith pobl angenus iawn. Yr oedd yn byw mewn gwlad lle yr oedd y ddynoliaeth wedi ei darostwng yn ddwfn iawn i drueni ar y pryd. Yr oedd crefydd wedi inyned i gyfiwr mor ddirywiol nes yr oedd beddau ivedi eu gwyngalchu yn gymhariaeth gymhwys i osod allan gy- meriad y sect fanylaf yn y wlad. Yr oedd dysgawdwyr y bobl we'di myned i wneyd llawer mwy o'u traddodiadau eu hunain nag o air Duw, ac yr oedd yno sect ddylamradol arall yn gwadu bodolaeth byd ysbrydol. Felly, yr oedd sefyllfa grefyddol a moesol y wlad wedi myned. yn isel iawn. A phan y bydd crefydd wedi myned yn isel iawn mewn gwlad fydd wedi cael manteision crefyddol uchel iawn, y mae yno bob math o drueni yn gorlifo i mewn iddi. Ö! na íyddai i Brydain, 0 ! na fyddai i Gymru uchel ei breintiau, feddwl am hyn yn ddifrifol. Yn yr adeg yr oedd crefydd a moes wedi myned mor isel, yr o«dd cyfiwr cymdeithas wedi myned yn hynod o druenus. Yr oedd ysbrydion aflan wedi cj^meryd meddiant helaeth iawn yn nhrigolion y wlad, ac yr oedd lluaws mawr o fathau o afiechyd, a chlefydon, a phlaau yn ffynu yno. Yr oedd dyn cythreulig yn wrthddrych ag y cyfarfyddid âg ef yn fynych iawn ; ac yr oedd dyn felly yn un truenus iawn—yr oedd yn gyffredm yn ddall ac yn fud ; byddai yn aml yn bwrw ewyn, ac yn ysgyrnygu danedd, ac yn cael ei dafiu i'r tân ac i'r dyfroedd, ac yn cael ei rwygo a'i ddryllio; a byddai yn dianc i leoedd annghyfanedd, yn trigo yn noeìth yn mhlith y beddau, ac nis gallasai neb ei ddofi, a byddai yn ei dori ei hun â cheryg. Yr oedd cyflwr y dyn cythreulig yn ddychrynllyd iddo ef ei hun, yn drallod o'rmwyaf i'w berthynasau, acynarswyd- ol mewn gwlad. Ac yr oedd yno lawer fel hyn yn ninas-