Skip to main content

AM MEHEFÜÍ, 1865. MYNYDD YE OLEWYDD. ÁJL DEEM ARNO. Mae yn anmhosibl darllen yn ystyriol am Iesu Grist heb weled ar unwaith ei fod yn un mawr mewn gweddi; ie, ei fod yn byw yn wastadol felly mewn cymundeb cynhes â'i Dad. Ae o'r rhagoriaeth uchel hwn yn ngharictor pur yr Iesu y mae hen fynydd yr Olewydd yn dyst eglur, hyawdl, a safadwy. Ar ol llafur caled y aydd yn y ddinas boblogaidd gerlìaw, mynych y tynai yr Iesu i'r mynydd unigol i weddio. Mae llawer llecyn anwyl ar yr hen fynydd hwnw wedi derbyn argraff dwys ei ddau ben- lin santaidd, ac wedi yfed yn aml ei ddagrau heilltion ef wrth -ymbil ohono â'i Dad. Ac nid anfynych, yn ddiau, y bu'r teithiwr hwyrol, wrth groesi y mynydd ar ei ffordä o'r ddinas fawr gerllaw i rai o'r pentrefi cylchynol, yn cael ei startio a'i gyffroi, os nad ei ddychrynu hefyd weithiau, trwy glywed llais cwynfanus, ymbilgar, a thodd- edig, yn tori'r dystawrwydd arddunol yn sydyn yn ei ymyl—llais y Gwaredwr mawr mewn ymdrech gyda Duw. Ysbryd fel yna oedd ysbryd Iesu Grist, medd mynydd yr Olewydd i ni. " Gwir," medd rhywun; "ond beth wedi'r cwbl yw hyny i ni P " Ein hateb i'r cyfryw ydyw, Y mae hyn oll yn addysg, yn rheol, ac yn siampl i ni; canys yn hyn hefyd, fel yn mhob peth arall bron, " Efe a adawodd i ni siampl fel y dylynem ei ôl ef," 1 Pedr & 21. Ac yn awr ynte clust-ymwrandawn am dro ar leisiau addysgiadol y siampl hon. A dyna un,— 1. Byddwch ddiwyd a diflino yn holl ddyUdswyddau oyw- yd. Un diwyd iawn oedd Iesu Grist; un " a gerddodd o amgylch yn gwneuthur daioni," Act. x. 38; " a gerddodd