Skip to main content

AM MAI, 1865. MYNYDD YE OLEWYDD. GAN T PABCH. W. DATIES (ü). Y DREM GYNTA* AHNO. Mae mynyddoedd y Beibl yn gyfoethog mewn addysg. Mewn unigrwydd mawreddog a breninol, safant lawer ohonynt yn gof-golofnau oesoí i rai o'r pethau hynotaf a welodd y byd erioed. 0 ganol y dystawrwydd arddunol sydd yn wastad yn teyrnasu arnynt, y mae llais uchel, clir, yn traethu yn groew i glust ffydd, beth bynag, eu gwersi hyawdl ac effeithiol. Mae yn anmhosibl meddwl am Arasat yn dyrchu ei ben pinaclog allan o wastad- diroedd Armenia, heb i donau duon y dylif dinystriol ym- luchio ger ein bron, a rhuo yn ein clyw gasineb Duw at bechod—ei benderfyniad i'w gospi—yn nghyda'i garedig- rwydd hefyd, a'i fawr ffyddlondeb i'r rhai a'i hofnant ef. Pan y mae'r "mynydd" "ynnhir Moriah," drachefh, ya ymgodi o'n blaen, mor naturiol y mae ffydd, ac aberth, a gwobr Abraham yn ymgodi o'n blaen hefyd! Am Sdstai ysgythrog a noeth, eglur yw fod mawrhydi, a santeidd- rwydd. a gras Duw yn anwahanol gysylltiedig â'i hen glogwyni ef. Pwy fedr feddwl byth am yr hen Pisgah draw, heb feddwl hefyd ar yr un pryd am y patriarch hy- barch Moses yn syllu'n brudd ar '* yr hyfryd wlad," ya inarw yn nghwmni Duw, a'r Ooruchaf ei hun yn ei gladdu ? A dacw Cabmel yntau draw yn ngorÜewiû Canaan, gyda'r cwmwl tew yn cuddio ei ben, a Môr y Canoldir yn golchi ei droed: pwy fyth a all edrych arno yntau heb feddwl gyda pharch, a llawenydd, a chariad am wrhydri ardderchog Elias, ac am nerth rhyfeddol gweddi ? 0.! y mae gwersi mynyddau y Beibl yn aneirif