Skip to main content

AM EBRILL, 1865. Y PWYSIG-EWYDD 0 GEEFYDD FOEEUOL. &AN X PARCH. T. ATTBEEY. YSGRLF IV. Mae dyn wedi ei greu i fod yn ddedwydd. Nid rhaid i ni ond crybwyll, cyrneriad cymwynasgar Awdwr ei fod- aeth, a'r dymuniad angerddol sydd wedi ei blanu yn y meddwl dynol am ddedwyddwch; y cyfaddasrwydd sydd yn ei natur i'w fwynhau, yn nghyda'r' ffaith o'i "fod wedi ei gynysgaethu gyda moddion cymhwys i gyraedd a di- ogelu y daioni eithaf hwn—nid rhaid ond uno y syniadau hyn, nad yw yr osodaoth yn sefyll yn eglur brofedig i'n meddwl. Buasai'r dymuniad'heb y cyfaddasrwydd yn creu poen, a'r cyfaddasrwydd heb foddion i'w g3rraedd a'i ddiogelu yn ddiwerth. Ond mae Awdwr ein bodaeth wedi ein cynysgaetìm gyda'r oll ag sydd yn hanfodol er ein dedwyddoli; wedi agorj'd i ni fìynonau pleserau ag ydynt bur yn eu natur, j-gbrydol yn eu naws, ac o ran llawnder yn ddigonol i alluoedd mawrwych a byth-ym- eangol bocíau byth-barhaol. Gelwir eich sylw yn awr at, II. Ddyìanwad erefi/dd foreuol ar ddedwyddwcli personol ei deiliaid. Mae ein hegwyddorion a'n hymarferion crefyddol yn dylanwi ar ein dedwyddwch meẁn amrywiol ffyrdd. Nid yw dynoliaeth yn agored i unrhyw aflwydd na'niwaid a'r nad yw crefydd yn effeithiol i'w chysuro yn eu gwyneb ; ac hefyd mae yn rhoi y chwaeth mwyaf dymunol i'r ple- serau gwerchfawrocaf ag y mae ein natur yn gyfaddasol ohonynt. Yr ydym yn mhell oddiwrth gynyg haeru fod y dyn crefyddol yn sicr o ddianc rhag drygau naturiol bywyd;