Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AM 1ÍAWÍÌTH, 1865. Y PWYSIGBWYDD O GEEFYDD FOEEITOL. GAff T PABCH. T. ATTBEEY. YSGREF III. Mae yn cael ei addef gan wrthwynebwyr, yn gystal ag yn cael ei faentuniio gan bleidwyr Cristionogaeth, fod y dyn ag sydd yn byw o dan ddylanwad egwyddorion cref- yddol, a'i ymarweddiad yn cael ei reoleiddio niewn modd unffurf gan arwireddau moesoldeb efengylaidd, nid yn unig yr aelod mwyaf defnyddiol o gymdeithas, ond fod yna ryw beth ag sydd yn annarlunadwy o'i ddeutu ag sydd yn creu teimladau parchus tuag ato, ac yn enill nid yn unig gymeradwyaeth, ond hefyd edmygiant y rhai a'i hadwaenant. Ni fydd i ni yn awr aros i wneyd sylwadau ar annghysondeb beius y rhai a gydnabyddant ragoroldeb a phrydferthwch crefÿdd, tra mae eu hymddygiadau yn hollol groes a gwrthwynebol i foesoldeb efengylaidd. Ni a ymgymerwn gyda'r gwaith o ddangos y pwysigrwydd o grefydd foreuol, trwy sylwi ar y dedwj^ddwch cymdeith- asol a phersonol mae crefydd foreuol yn ei sicíhau i'w deiliaid. I. Dedwyddioch cymdeithasól. ' Pe byddai i ni ffurfio ein barn am grefydd oddiwrth y gyfrifiaeth mae yn ymddangos i gael gan ddynion yn g yffredin, fe'n harweinid i gredu ei bod yn wrthdarawol i fwyniant a dedwj'ddwch cymdeithas; yn ddinystriol i heddwch, a llonder, a bywiol weithrediad j gymdeithas ddynol. Mae yn cael ei chau allan o'r cylchoedd lle mae cy- westa a llawenydd digrifol, fel pe byddai y cyfyngiad ag y mae yn ei roi i'w dymuniadau a'u tueddiadau anianol