Skip to main content

Y WINLLAN. AM MEDL 1864. BYWYD CEIST YN SIAMPL I'N BYWYD NI. «AN Y PAB.OH. D. JONES. Yn fynych iawn yn y Testament Newydd y mae Orist ya cael ei osod allan fel siampl i ni. Pan y mae ef ei hun yn anog ei ddysgyblion i fod yn garuaidd a gostyngedig, j mae yn dywedyd, •' Bhoddais siampl i chwi." Pan y mae Pedr yn son am ddyoddefaint Crist, y mae yn dywedyd, "Crist yntau a ddyoddefodd drosom ni, gan adael i ni siampl fel y canljmech ei ol ef." Pan fynai Paul i'r Corinthiaid ei ddylyn ef, yr oedd yn dangos mai Cristoedd i fod yn gynllun iddynt oll. '' Byddwch ddylynwyr i mi," meddai, " megys yr wyf Jinau i Orist." Ac y mae Ioan yn dyweyd, " Ýrhwn a ddywedeifod yn aros ynddo ef, a ddylai yntau felly rodio, megys y rhodiodd efe." Yr hyn. sydd yn dangos fod bywyd Crist fel wedi ei fwriadu yn gynllun i'n bywyd a'n hymarweddiad ni. Yr oedd siampl fel hyn yn wir angenrheidiol, oblegid yr oedd dynion "wedi jmiddyeithrio oddiwrth fuchedd Duw." Er i ni ar y cyntaf gael ein gosod ar y ffordd iawn, a'n cyfai*wjrddo pa fodd i fyned yn y blaen, eto, " nyni oll a grwydrasom fel defaid, troisom bawb i'w ffordd ei hun." Ac mewn trefn i'n dwyn yn ol, yr pedd yn angenrheidiol i ni, nid yn unig glywed llais o'n hol yn dywedyd, " Dyma'r ffordd, rhodiwch ynddi," eithr yr oedd yn rhaid i ni gael siampl o'n blaen i edrych arni ac i rodio wrthi. Y mae rhyw beth mewn siampl sydd yn myned tudraw i bob cyfarwyddyd arall, ac yr oedd yn angenrheid- iol cael y peth hwnw i'n dwyn ni i'n lle. Pan y mae un yn cael ei ddysgu inewn unrhyw beth, " Dangoswch i mi pa fodd i wneyd" ydyw y dymuniad yn gyffredin. Pan y mae un yn dysgu chwareu rhyw offeryn, y mae yn dy- muno gweled un medrus yn ei chwareu; a phan j mae