Skip to main content

Y WINLLAN. AM CHWEFROR, 1864. " BETH A GAWN NI WNEYD ?" GiiWE blynedd neu saith yn ol, yn amser y cynauaf ŷd, yr oeddem yn dygwydd bod ar daith yn bur foreu: ac ar ein taith yr oedd genym i fyned trwy fuarth ffarm go fawr; a phan yr oeddem yn myned i mewn iddo, gwelem y ffarmwr yn dyfod i mewn y pen arall, i'n cyfarfod. Wedi iddo ddyfod yn mlaen am ychydig o latheni, troes i mewn i hovel, lle yr oedd tua haner dwsin o ddynion ieuainc yn sefyllian, gan siarad a chellwair. Erbyn hyny yr oeddem yn ddigon agos i glywecî y meistr yn dyweyd, mewn tôn a ddangosai ei fod o ddifrif, er nad yn sarug, "Wel! lanciau, ai dyma lle yr ydych ehwi ?" ac un ohonynt hwythau yn ateb mewn líais a ddangosai ei fod mewn rhyw deimlad cyrnysg o gywilydd a braw, yn awyddus am esgus, " Ie, syr, beth a gawn ni wneyd ? Y mae yn rhy wlyb i fyned i'r cae haidd!" " Ydyw," meddai y meistr—yr oedd yn gwlawio yn ddwys ar y pryd, ac yn debyg iawn o wneyd diwrnod gwlyb— "ydyw, y mae yn rhy wlyb i fyncd at yr haidd, ond dyna —:" yr oeddem yn rhy bell i glj'wed yr hyn a ddy- wedodd yn mhellach, ond clywsom ddigon'i ddeall fod y meistr yn dysgwyl fod y llanciau yn gweithio, yn lle segura o danyr hovd. Yr oedd yr " Onddyna" a ddis- gynodd olaf ar ein clust yn dangos i ni, os oedd y gwlaw yn rhwystr i fyned i'r cae haidd, fod gan y meistr ddigon o waith arall ag yr oedd angen am ei gyfìawni, heb fod y gwlaw yn rhwystr i wneyd hyny. Ar ol hyny yr ydym wedi gweled aml broffeswr crefydd, yn lle bod gyda'u gwaith, yn sefyll yn lled segur yn rhywle o'r neüldu, ac yn siarad a chellwair, a beio ar bobl ereill; a buom ninau yn teimlo ei bod yn ddyledswydd arnom apelio atynt yn ddifriíbl, "Erodyrî.ai dyma 11« yr ydych chwi ?" a'r atebiad a gawsom yn bur fynych,