Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

41 HEN WRAIG DLAWD GYFOETHOG. Hwyrach fod rhai o'n darllenwyr yn barod i ameu cywirdeb y linell uchod, a dyweyd fod yna yr hyn a elwir yn (contradiction in terms), gwrthddywediad mewn ymadrodd ; neu fel y buasai y gwyr dysgedig yn dyweyd, parodox. Ond y mae yr ymadrodd yn berffaith Wir, fy nghyfeillion ieuainc, ac nid oes dim yn y geiriau yn gwrth- ddyweyd, ònd yn unig mewn ymddangosiad. A dyma fel yr ydym ynprofimai gwirionedd ydyw. Yr oedd hen wraig dlawa dduwiol wedi bod un diwrnod ár ei thaith arferol o ymweled ä thai y cyfeiEion hyny oeddent yn wastad yn ei D Mawbth, 1876.