Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

21 ANIFEILIAID Y BEIBL. XIV.—Y LOCUST. Yr oedd gan yr Hebreaid wahanol enwau ar y creadur bychaa ond hynod hwn; er hwyrach, nad oedd yr enwau hyny ond yn gosod allan amrywiol rywogaethau o honynt, neu, ynte, yn gosod allan y creadur hwn o dan wahanol amgylchiadau. Pa fodd bynag am hyny, pan yn son neu yn darllen am y locust y mae ein meddwl ar unwaith yn myned at greadur bychan o ednog, hynodrwyddpenaf paunydyw y mawr wancusrwydd sydd ynddynt i ddifa pob tyfìant gwyrddlas o'u hamgylch pan yn heidiau gyda'u gilydd. Y mae mynych grybwylliad am locustiaid yn y Beibl, ac enẁir hwynt yn fynych mewn cysylltiad ag amgylchiadau dyddorol iawn. Fel engraifft, y mae ein darllenwyr yn cofio yn ddiameu, mae locustiaid oedd y seithfed pla a syrthiodd ar Pharaoh annuwiol yn yr Aipht, am y rhai y dywedir i wynt y dwyrain eu dwyn, ac iddynt fyned dros holl wlad yr Aipht; gan aros yn mhob ardal; troisant wyneb yr holl dir, a thywyllodd y wlad ganddynt ir fath raddau fel na allai neb weled y tir. " Blin iawn oeddynt; ni bu y fath locustiaid o'u blaen hwynt, ac ar eu hol ni bydd y cyffelyb." Darfu iddynt wneyd dinystr mawr y tro hwnw; fe yswyd yr oll oedd wedi ei adael i'r Aiphtiaid gan bla y cenllysg; difasant bob pren oedd yn blaguro yn y maes; ac heblaw hyny, llanwasant y tai, tŷ y brenin, a thŷeibobl. Dyma engraifft arall hefyd pan y bygythiai Duw ddwyn locustiaid ar ei bobl Israel am anuf udd-dod (Deut. xviii. 38, 42): " Had lawer a ddygi allan o'r maes, ond ychydig a gesgli, o herwydd y locust a'i &c. Gwel hefyd Joel i. 1—11. c Chwefror, 1876.