Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

221 ANIFEILIAID Y BEIBL. XII.—Y CUOCODIL. Y farn gyffredin yw mai yr anifail adnabyddus wrth yr enw croco- <lile ydywyr un y sonir am dano yn y Beibl wrth yr enw Leviathm (Gwel Job iii. 8 ; xi. 1; Salm lxxiv. 14 ; civ. 26 : Esaiah xxxvii. ì) Y mae y crocodil yn ateb yn well a llawnach i'r desgrifìad a roddir o hono yn y gair sanctaidd nag un anifail adnabyddus arall. Anífail brodorol o'r Nilus ydyw y crocodil, ac y mae yn greadm anferthol ei faint, rhyfeddol ei gryfder, tra chyflym ei symudiadau ai brydiau, ac erchyll fel ysglyfaethwr. Efe a ymosoda yn Sibetruí ar yr anifeiliaid mwyaf, a hyny gyda rhuthriad nerthol. Ei safn sydd anferth ei maint, ac egyr y ddwy ên yn gyfartal. Yn yr ên uchaf ^ mae ganddo ddeugain, ac yn yr un isaf ddeg ar hugain, o ddauned< miniog mawr. Yr oedd y erocodil, gynt, yn wrthddrych addoliad yn llawer part' o'r Aipht; ond ystyrid ef gan filoedd o'r Aiphtiaid fel cynnryrchiolyd yr Un drwg, yr hyn a barai ymladdfeydd-aml rhwng trefydd cymyd •ogaethol â'u gilydd. Yr oedd un o ddinasoedd yr Aipht yn myne wrth yr enw Dinas y Crocodiliaid; cedwid yr anifeiliaid yn Lly Moeris, a chleddid hwy mewn tir cysegredig. Dj^wedir wrthyin nu un canlyniad i ystyried yr anifail hwn yn gysegredig, eu lluosogi;' mawr yn yr afonydd, fel nad oedd yn ddyogel ymolchi yn yr afon n thynu dwfr o honi, na rhodio ar ei glanau, heb gymeryd gof; neillduol. Y mae Strabo yn rhoddi hanes un crocodil a gedwid gan offeiriai Crocodilopolis, yr hwn a addolid, ac a f wydid yn ofalus ä bara, cig, ^win, gan ymwelwyr yn benaf. n ' Rhagfyiì, 1875.