Skip to main content

201 ANEWYLLYSGABWCH PECHADUEIAID I DDYEOD AT GBIST. "Ond ni fynwch chwi ddyfod ataf íì fel y caffoch fywyd." Ioan v. 40. §B oedd gan yr Arglwydd Iesu hawl ae ewyllys i gy- nyg bywyd i bechaduriaid, a gwnaeth hyny yn ddi- dwyll, p ìn yma ar y ddaear yn nyddiau ei gnawd. Eithr gwrthodwyd ei gynygion gan laweroedd, ac yn yr olwg ar y gwrthodwyr hyn y llefarwyd y geiriau uchod. Edliwir i'r Iuddewon eu bod yn gwrthod dyfod ato Ef i geisio bywyd. Nid oeddent yn gwrthod bywyd fel byw- yd, ond gwrthod dyfod at Grist i gael bywyd, Dysgir yn yr adnod flaenorol eu bod yn chwilio yr ysgrythyrau oherwydd eu bod yn meddwl cael bywyd tragwyddol trwy hyny. Eithr nid yw chwilio yr ysgrythyrau a'r meddwl yn llawn o ragfarn o nemawr werth, fel y gwelir oddiwrth ymddygiad y bobl hyn. Er chwilio yr ysgrythyrau ni fynent dderbyn y Crist a addawid yn yr ysgrythyrau hyny. Yr oedd yr Iuddewon hyn yn anewyllysgar i ddyfod at Grist i gael bywyd ganddo ef. Mae llawer eto yr un modd. Anewyllysgarwch pechaduriaid i ddyfod at Orist yw y pwnc y gwahoddir sylw y darllenydd ato o hyn i derfyn hyn o ysgnf. Ein gwaith yn hyn o ysgrif a fydd CEISIO DANGOS BETH YW NATUR TR ANEWYLLTSGAR- WCH hwn. Mae rhai duwinyddion ac athronwyr yn gosod pwys mawr ar ddosbarthu gallu dyn yn ei berth- ynas â Duw a llywodraeth foesol ì'r hyn a elwir yn attu naturìol a gattu rnoesol. Wrth allu naturiol, y golygir, gallu i wneyd yr hyn a ewyllysir ; ac wrth allu moesol, y golygir, gallu i ewyttysio. Er engraifft, dywedir tod gan y fam dyner galon ddigon o allu naturiol i ladd ei phlentyn, eithr nid oes ganddi allu moesol i wneyd. Mewn geiriau ereill, gallai pe mynai; eithr nis gall fynu, neu ewyllysio, ymddwyn yn greulon, tra y mae yn dyner ei chalon. Y gallu naturiol yma y iyw rhyddid yr ewyllys, yn ol Jona- than Edwards! Eithr nid yw hwn yn rhyddid yr ewyllys o gwbl, oblegid gallai dyn ewyllysio gwneyd peth er nas gallai ei wneuthur; ac y mae y Beibl yn dangos fod Duw yn cymeradwyo yr ewyllysiad. Edrych ar y x Tachwedd, 1870.