Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

121 HUNAN-DDIWYLLIANT. ÇjSjŴAE hunan-ddiwylliant yn un o'r dyledswyddau ^fil pwysicaf y gellir meddwl amdano. Dylai y pwnc &^ gael sylw pob dyn, ond yn neillduol yr ieuanc. Mae Äunan-ddiwylliant yn deler pob diwylliant arall; ac addefir yn gyffredin ei fod yn nod pwysicaf y gwir ddysg- awdwr. Nid yw unrhyw elfenau a ellir eu trysori yn y cof, ar wahan i ddiwylliant y meddwl, ond ffyn maglau i ni. Edrychwn ar hunan-ddiwylliant mewn gwahanol olygweddau. I. Ymofynwn pa beth a gynwys. Yma gellir sylwi ei bod yn cynwys tri pheth. 1. Hunanadnabyddiaeth. Mae hyn yn anhebgorol angenrheidiol. Ehaid i ni wybod beth ydym mewn trefa i wybod beth a ddylem fod. Yr achos paham y mae gaa lleied o hunan-ddiwylliant yw oherwydd fod gan lleied o hunanadnabyddiaeth. I'r rhan fwyaf yr allanol yw pob peth, tra nad yw eu syniadau am y mewnol ond arwynebol a disylwedd i'r eithaf. Maent erioed heb agoryd eu ìlygaid ar y ser dysgleiriaf a berthyn i'w natur, a bydd- ant feirw mor anwybodus amdanynt eu hunain ag am y gwledydd na roddasant erioed eu traed arnynt. 2 Peth arall a gynwysir mewn hunan-ddiwylliant ydyw hunan-lywodraeth. Cyn y gallwn wella nemawr arnom ein hunain, rhaid i ni feddu llywodraeth drosom ein hunain—plygu yr ewyllys a'r holl fywyd i'r farn, ac ar unrhyw adeg sefydlu y sylw, cyfeirio y meddyliau, a llywodraethu y teimladau. Yr hwn a'i gorchfygodd ei hun a all fod yn hyderus y gall welîa ei hunan hefyd, tra y mae yr hwn sydd heb gyraedd y gamp hon, fel pluen ar y dwfr, neu y ddalen yn y corwynt, at drugaredd am- gylchiadau allanol. 3. Hunanffurfiad sydd elfen arall mewn hunan-ddiwyll- iant. Nid nacaol yn unig yw y llywodraeth dros yr ysbryd i fod. Ehaid cael yr elfen ffurfiol. Ehaid cyrchu at berffeithrwydd fel nod i'w ddymuno yn barhaus. Ar ol gosod ein meddyliau ar y safon hwn, gallwn fyned yn mlaen gan enill nerth adnewyddol ar ol pob buddugol- iaeth. Gellir dyweyd yn briodol (ar y mater hwn), "í'r hwn y mae ganddo y rhoddir iddo, ac efe a gaiff helaeth- rwydd." II. Edrychwn ar y rhanau neillduol o'n natur yn y O OOSPHSMHAF, 1870.