Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

»1 GWERSI ODDIWRTH Y MORGRTJGYN. " Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth: Nid oes ganddo neb i'w arwain, i'w lywodraethu, nac i'w feistroli; Ae tr hyny y mae efe yn parotoi ei fwyd yr haf, ac yn casglu ei hmiaeth y cynauaf." Diar. vi. 6—8. §IAU mai prif ogoniant dyn yw ei fod yn fôd rhesymol. Y mae y rhagoriaeth hon a berthyna iddo yn deler pob rhagoriaeth arall. Pe na buasai yn greadur rhesymol, nis gallasai fod yn ddeilydd llywodraeth foesol Duw o gwbl; ac felly, nis gallasai fod yn gymhwys i gymdeithas bur y nef. Ei reswm sydd yn ei alluogi i arglwyddiaethu ar y greadigaeth isod, ac i gymdeithasu gyda Duw ei hun. Eithr er mor fawr ydyw rhagoriaeth dyn ar y greadigaeth afresymol, eto, nij. yw uwchlaw derbyn addysg oddiwrth rai o'r trychfilod distadlaf ar wyneb y ddaear. Yn y geiriau a osodwyd uwchben y llinellau hyn y mae y Gŵr doeth yn cymhell dyn i fyned at y Morgrugyn i ddysgu gwersi neillduol yn yr olwg ar ei ymddygiadau. Er fod y cynghor hwn yn taflu math o sarhâd ar ddyn, eto, ar yr un pryd, y mae yn tybin fod rhyw ardderchogrwydd neillduol yn perthyn iddo. Tybia ei fod yn alluog i ddysgu doethineb oddiwrth ymddyg- iadau creaduriaid islaw iddo ei hunan. Hyn nis gall yr un creadur arall ar y ddaear ei wneuthur. Hyd yn nod pan y mae y diog wedi ei anfon i'r ysgol at y Morgrugyn x ddysgu gwersi penodol ganddo, y mae mawredd a bonedd ei natur yn dyfod i'r golwg fel pendefig mewn cadachau. Y mae y Morgrugyn yn drychfilyn bychan mor adna- byddus, fel nad oes angen ar hyn o bryd i ni ysgrifenu dim mewn ffordd o egluro ei neillduolion anianyddol. Gŵyr ein holl ddarllenwyr fod y pryfyn bychan hwn " yn parotoi ei fwyd yr haf, ac yn casglu ei luniaeth y cyn- auaf;" ac at hyn mewn modd neillduol y gelwir sylw y dyn diog gan y Gŵr doeth Bydd i ni nodi tair neu bedair o wersi teilwng o sylw gweli dynion na'r "diog- yn," y rhai a gyfodant yn naturiol i'n meddyliau yn yr olwg ar ymddygiadau y Morgrugyn. Prydlonrwydd yw y wers gyntaf a nodwn. Gwyddys yn dda fod y Morgrugyn yn dechreu ar ei orchwyl yn brydlawn» Nid yw yn gadael i fìsoedd yr e Mai, 1870.