Skip to main content

61 Y EUBI COLLEDIG. QÊ\ " Wele fì, Syr," ebai bachgen bywiog unarbym- ^" theg oed gyda pharodrwydd, ac yn dyfod yn mlaen i dderbyn eirchion yr hen Arianydd. Yr oedd Mr. Taftynbrysurynysgrifenu wrth ei ysgrif- engist, ac ni ddywedoddddimmwy, tra yr oedd Dayid Pres- cott yn sefyll yn dysgwyl. Aeth pum munud heibio. Ar hyn daeth boneddwr i mewn i ymweled â'r Arianydd. Yn rhoi heibio ei ysgrifenu, dechreuodd Mr. Taft ym- ddyddan âg ef, yn talu dim syíw o'r bachgen. Arosodd Dayid yn yr un man hyd nes yr aeth y bon- eddwr ymaith, ac yna gofynodd, " A oes arnoch fy eisieu i, Mr. Taft ?" " Nac oes," ebai yr Arianydd, ac yna dychwelodd at ei ysgrifen-gist, ac aeth David i'w le y tu ol i'r counter. Mae yn debygol fod yr hen foneddwr wedi bwriadu anfon Dayid ar neges, ond trwy siarad a meddwl am bethau ereill, annghofìodd y cyfan yn ei gylch. Yr oedd yn ddyn o duedd annghofus iawn. Aeth amryw ddyddiau heibio, pan y galwyd David drachefn at ddesc ei feistr. Yr oedd y tro hwn yn segur. Gydag edrychiad argoeliog ar ei wedd, dywedodd, " Dydd Sadwrn diweddaf anfonais chwi at Grant a Wil- loughby gyda modrwy rubiaidd i'w hadgyweirio. Yr wyf yn deall na chyraeddodd yno. Pa beth y mae yn ei arwyddocau ?" Edrychodd Dayid fel wedi dyrysu. Ei wynebpryd a ddywedai yn eglur, Pa beth ydych yn ei feddwl, Mr. Taft? Ond wrth gwrs ni feiddiai ei siarad. " Mae yn rhaid eich bod yn camsynied, Syr," atebai yn foneddig- aidd; " yn sicr, nid wyf yn cofio im' gael fy anfon gyda'r fodrwy." " Yr wyf yn sicr nad wyf yn camgymeryd," meddai y Banher, yn surllyd. " Gelwais arnoch, a rholdais y fodrwy i chwi yn y fan hon. Mae wedi colli, Yr wyf yn eich dal chwi yn gyfrifol amdani." Oynhyrfodd David gymaint nes i'w wyneb droi yn welw. Edrychodd i wyneb ei feistr yn Uawn, a dywed- odd, " Yr wyf yn sicr na anfonasoch fì at Grant a Wil- loughby dydd Sadwrn diweddaf o gwbl; ni ddarfu i mi, hyd eithaf fy ngwybodaeth, erioed gymeryd eich modrwy B Ebrill, 1870.