Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

221 MAHOMET A'I GffîEFYDD. jdettttj y flwyddyn 569 y ganwyd Mahomet yn Mecca, dinas yn Arabia Felixs. Yr oedd yn hanu o un o deuluoedd penaf y wlad; ond bu farw ei dad a'i fam pan oedd yn faban ; a phump o gamelod ac un gaethforwyn o Ethiopia oedd ei gyfran ef o gyfoeth ei rieni. Yr oedd ganddo amryrc ewythredd galluog yn y byd, ac yr oedd un ohonynt, Ahu-Taleb, fel gwarchgeid- wad a ehynghorwr iddo. Pan yn bedair ar ugain oed efe a aeth i wasanaeth un Cadijab, gwraig weddw gyfoethog yn Mecca ; ac yn fuan efe a'i priododd, a daeth felly yn berchen ei chyfoeth, ac yn ŵr o gryn rwysg. Nid oedd ei ddysg ond bychan iawn ; eto yr oedd yn ddyn o allu- oedd a chyneddfau cyraeddgar. Dywedir hefyd fod ei berson yn hardd, ei ddawn ymadrodd yn barod a hylithr, ei ymddangosiad a'i ymddygiad o ddull enillgar a denol. Yr oedd ei gof yn gryf, ei gallineb a'i ddyfais yn dra threiddgar ac felly, nid oedd bychandra ei ddysg yn peri dim gwaeth na darostyngiad iddo yn yr oes a'r wlad far- baraidd hono. Pan yn fachgen ieuanc, bu gyda'r fìntai yn canlyn ei ewythr, ac yn gwerthu mewn dwy ffair fawr yn Bostra a Damascus, ac ar ei ddychweliad adref, wedi iddo orphen ei negeswaith, yr oedd yn lled adnabyddus â helyntion y byd. Ar ol ei ymsefydliad mewn bywioliaeth dda yn Mecca, yr oedd i'w weled yn un llawer mwy myfyrgar na'i gym- ydogion yn gyffredin. Ac am y mis a alwent Ramaden, ei arfer rai blynyddau yn olynol oedd cilio oddiwrth y byd a'i gyfeillion oll, ac oddiwrth ei wraig, a'i dreulio mewn ogof, yr hon oedd dair milldir o Mecca: ond dychwelai i'w dŷ bob nos. O'r diwedd, efe a anturiodd wneyd defnydd o'r pethau a gasglasai ei galon ddichellgar. Dy- wedir fod ganddo hefyd íuddew, a dyn fuasai yn proffesu Cristionogaeth, yn gynorthwywr iddo yn ei fwriadau a'i ddyfeisiau ysgeler. Oddeutu y flwyddyn 609 y darfu iddo ddechreu pregethu i'w gymydogion tywyll a phaganaidd, gan gymeryd arno ei fod wedi cael gweledigaethau a datguddiedigaethau rhy- fedd a nefolaidd trwy yr angel Gabriel, trayr oedd eu cyn- nwyniad yn chwedlau o'r fath anferthaf, neu hyllddigrifol, nes oedd yn rhaid fod y bobl a fedrent eu coelio yn rhai M Rhagfyä, 1868.