Skip to main content

161 'BWY'N MYN'D ADBEF. tFATE fyd o feddwl sydd yn y gair bach hwn—cartref! Y fath londer a bywiogrwydd a rydd i ysbryd dyn! 0 mor beraidd y swnia yn nghlustiau teitbiwr pell cartref! Fel y mae yn bywiogi curiadau y galon, ac yn anfon y meddwl yn ol, gan ddwyn ar ei ddycnweliad, dros greigiau a sugn-draethau amser, yr adgofion am ddyddiau nyfryd a dedwydd yr amser aeth heibio! Cartref —y Uecyn anwylaf ar y ddaear; o amgylch hwn mae ein meddyliau a'n dymuniadau goreu yn ymgasglu ac yn cyd-gyfarfod, ac yno y preswylia ein rhai anwyl. 'Rwy'n 7nynìd adref, sisialai y morwr ar y cefn-for llydan, wrth fyned yn ol ac yn mlaen ar fwrdd ei long gyfeiriedig tuag yno. Mae y tonau yn curo yn nerthol yn erbyn ystlysau y llestr, gan dori a gwasgaru eu defnynau o'ideutu; ond ni ofala am hyny; ac er fod chwibianiady gwynt trwy yr hwylbreni yn bygwth ei hyrddio dan y crychias donau, ni chyfíroa hyny ef. Mae ei feddyliau ef yn mhell; a chyfyd ei law i gysgodi ei lygaid rhag dys- gleirdeb yr haul, ac edrycha yn mlaen yn awchus am y fen adnabyddus i fynegi ei fod yn nesau adref. O ran ei feddwl, mae y müldiroedd rhyngddo a chartref wedi eu teithio, ac yntau megys yn mhresenoldeb ei deulu; ondy mae llais uchel y cadben yn ei ddeffroi o'i ddychymyg breuddwydiawl, ac mae yn ymdrechu sefydlu ei feddwl ar ei ddyledswydd, ond yn ofer, oherwydd ei fod yn agosau at ei sweet home. 'Rwy'n myn'd adref, ynganai y milwr clwyfedig ar faes y gwaed. Ymgasgla y milwyr o amgylch yr hwn a dreuliodd ei nerth allan wrth ryfela, ac o'r braidd yn an- foddlon iddo gael mwynhau cysuron cartref, yr hwn le y mae yn awr mewn cymaint o angen amdano. Mae byw- îogrwydd ei lygaid, a sirioldeb ei wynebpryd, yn dadgan fodí yna gynhwrf oddifewn wrth feddwl am y dyfodol— íayn d adref. Er i'w archollion ei boeni, eto, nid oes un o fewn y camp yn ddedwyddach nag ef, oblegid fod per- oriaeth y gair yn adsain yn ei glybod. 'Rtwy'n myn'd adref, meddai y cristion wrth farw, al gorflf yn cael ei ddirdynu gan boenau. Nid oes ochain, achwyn, na grwgnach, yn disgyn dros ei wefusau cras- x Masi, 1868»