Skip to main content

Y PABCH. SAMTJEL LEIGH. fCHYDia fisoedd yn ol, gwnaethom rai crybwylliadau o'r blaen am y gwron hwn. Y pryd hwnw dylyn- asom ef nes cyraedd Sydney. Ar ol llafurio am beth amsér fel cenadwr Wesleyaidd yn y lle hwnw, yr ydym yn ei gael yn prynu ceffyl, fel y gallai gymeryd teithiau i fyny i'r wlad i bregethu. Ar gais rhyw gyfaill o fonedd- wr ymwelodd â lle o'r enw Castlereagh. Cyraeddodd yno yn hwyr ryw brydnawn, a marchogodd i fyny at breswyl- fa cyfaill i'r boneddwr, a dywedodd wrtho, " Mae genyf lythyr oddiwrth eich cyfaül, Mr. M., o Sydney, a dymun- ocld arnaf i ddyfod yma i geisio genych ganiatau i mi, fel cenadwr Wesleyaidd, i bregethu i'ch pobl." Atebwyd ef yn ddigon difloesgni, "Ni chaniatâf i chwi wneyd dim o'r fath beth." Wel, meddai y cenadwr, "Efallai y byddwch mor garedig a chaniatau i'm ceffyl arós yn eich yard dros y nos, ac i minau gael cysgu yn eich ysgubor; mi dalaf i chwi unrhyw swm ag a ofynoch am hyny." I hyny yr atebwyd yn sych a phenderfynol, "Niwnaf ddim o'r fath beth." Gofynodd Mr. Leigh iddo yn mhellach, "a oedd ef yn gwybod am neb yn agos yno a fyddai mor garedig a'i gymeryd i mewn am y noson." " Yr wyf yn meddwl," oedd yr ateb, " y gwna John Leès, yr hwn sydd yn byw tua dwy fìlldir yn y cyf- eiriad acw," meddai, gan gyfeirio ei fys y ffordd hono. I ffordd â'r cenadwr mor gyflym ag oedd bosibl iddo trwy ganol yr anialwch a'r dyrysni mwyaf a welodd fawr erioed, i chwilio am gartrefle John Lees. Wedi cyraedd yno, curodd wrth y drws gyda choes ei chwip, a gwaedd- odd allan, "A wnewch chwi dderbyn cenadwr Wesley- aidd i mewn i'ch tý ?" Yn y fan agorwyd y drws—daeth allan lencyn byr a bywiog; ymaflodd yn yr awen, a dy- wedodd, " Disgynwch, syr, bydd yn dda iawn gan fy nhad eich gweìed." Disgynodd, ac aethi mewn i'r bwth- yn; ac er ei fawr syndod, canfyddodd olygfa ddymunol annghyffredin—nifer o bersonau yn eistedd o amgylch bwrdd yn hynod o drefnus, ac ar y bwrdd amryw Feiblau. Wedi iddo introducio ei hun, cyfarchwyd ef gan yr hen John Lees, a dywedodd, " Eel y gwelwch, syr, yr oedd- em ar ddechreu gyda'n haddoliad teuluaidd, ac efallai na fydd genych ddim gwrthwynebiad i gymeryd hyn o waith oddiar fy llaw heno." "Dim o gwbl," oedd yr atebiad. H AW»T, 1868.