Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

121 Y TAIR YSGOL. «N y dyddiau hyn, nis gall neb mewn oedran fod heb glywed a gwybod rhywbeth am addysgiad ac ysgol- ion; ac er fod un yn meddwl ac yn dywedyd fel hyn, ac arall yn meddwl ac yn dywedyd fel arall, am y dull a'r modd o addysgu ; eto, maent oll yn cydnabod yr angenrheidrwydd a'r Tbuddioldeb o addysgu; a chan fod pob dyn yn gyfansoddedig o goríF ac enaid, ac i hanfodi mewn dau fyd—un am amser, a'r llall am dragwyddol- deb—nid oes neb ond y digred a'r àidduw na ddywed fod yn í'wy angenrheidiol addj^sgu dyn yn y pethau a berthynant i ddedwyddwch ei enaid a thragwyddoldeb, nag yn y pethau a berthynant i'w hanfodiad byr ac ansicr mewn amser. Ond nid yw yn angenrhaid esgeuluso'r cyntaf er mwynhau yr aü ; canys nid yw rhoddi yr ail heb y cyntaf amgen uag adeiladu ar y tywod. Mae tair ysgol yn ein plith, a thri athraw yn perthyn i'r ysgol- ion hyn. Yr ysgolion hyn ydynt yr aelwyd, yr ysgol- dy, a'r eglwys; a'r athrawon ydynt y fam, yr athraw, a'r gweinidog. Dylai y tri athraw hyn gytuno a chyd- weithredu, a gwyn fyd y bobl y mae felly iddynt; can- ys pan fyddo'r fam wedi hyfforddi ei phlentyn ar yr ael- wyd yn mhen ei ffördd, mae wedi gosód sylfaen gadarn i'r athraw yn yr ysgol oruwch-adeiladu arian, aur, a meini gwerthfawr arni, ac mae yntau wrth wneuthur felly yn gwneuthur pobl barod i'r eglwys a'r gweinidog, i agoryd iddynt ffordd Duw yn fanylach. Ond och! nid fel hyn y mae yn gyffredin yn ein plith; canys llawer o amser a gofal yr athraw yn yr ysgol a dreulir yn dad- ddysgu arferion ac addysg yr aelwyd, a llawer o amser, llafur, gweddiau, ae ymdrechion y gweinidog a ofynir i geisio attal gweithrediad greddfau'r aelwyd, ac arferion a cham addysg yr ysgol. Pan y byddo y rhai hyn yn cydweithredu, ac y maent yn cynyddu yn hyn o flwydd- yn i flwyddyn, maent fel ysgol Jacob gynt, un pen iddi ar yr aelwyd, a'r llall yn y nef. Ond na ddysgwyliwn weled gwyrth j^ hvn; canys os gwnawn, fe'n siomir. Dysgwyliwn weled effeithiau cyfatebol i'n hymdrechion ai yr aelwyd, yn yr ysgol, ac yn yr eglwys, ac ni'n siomir. Dysgwn amynedd yn ein dysgwyliad oddiwrth yr amaethydd diwyd a llafurus. Nid ar unwaith, neu Baewn un tymor, ymaeefe yn dysgwyl glanhaueianialdir a • GospaBNHAP, 1868