Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

101 Y WBAIG WEDDW A'R DDWY HATLING. Oydymddyddan rhwny dwy ferch ieuanc A. a B. tTYRED gyda mi yn awr, B., i gyntedd y Deml, yn ♦ Jerusalem, am ddeng munud. B. I beth, A ? A. I gael gweled yr Iuddewon yn cyfranu at Drysorfa'r Arglwydd. Onid yw yn lle braf ? B. Ydyw yn wir, yn lle arddercbog iawn. A. A weli di y coffrau neu y cistau acw ? B. G-welaf. Pa betb ydynt ? A. Dyna lle y maent yn bwrw eu harian i'r Drysorfa, at gynahaeth y Deml a'i gwasanaeth. B. 0 felly. Dacw ryw foneddigion yn myned yn mlaen yn awr, a gallwn feddwl eu bod yn cyfranu yn belaeth iawn. A. Wel, y maent yn cyfranu yn helaeth, ond cofia di mai gwŷr goludog ydynt, a bod ganddynt bob cyfiawnder yn eu meddiant; ac er eu bod yn offrymu yn helaeth, nid ydynt yn teimlo unrhyw annghyfleusdra, canys y mae ganddynt ddigon yn ngweddill. Ond a weli di y wraig fach lwydaidd yna sy'n awr yn myned yn mlaen at y Drysorfa ? B. Gwelaf. Pwy ydyw hona, druan, dywed ? A. 0-wraig weddw dlawd ydyw, ac yr wyf am i ti ddal sylw pa faint a fwria hi i'r gist. B. Dacw ddiuy hatling yn disgyn o'i llaw i'r Drysorfa. A. Ie, dioy hatling, sef y ddau ddernyn lleiaf o arian Iuddewig yn y wlad; ac er nad yw hyny ond gwerth ffyrling, dyna'r cwbl ag oedd ganddi yn ei meddiant, a hi a'u rhoddodd yn ewyllysgar. B. Wel, gan ei bod mor dlawd, a fuasai ddim yn well iddi gadw un o'r ddwy hatling, yn lle rhoi y cwbl oll ag oedd ganddi ? A. Aros dipyn bach. A weli di y gŵr dyeithr acw, sy'n eistedd gyferbyn a'r Drysorfa ? B. Gwelaf. Mae yn \mddangos yn brudd iawn, ac eto y mae urddas yn ei wedd, ac mae yn sylwi yn graff ar bawb a phob peth. Pwy ydyw ? A. Dyna'r Iesu o Nazareth, y Messiah mawr ; ac mae Wedi cymeryd ei eisteddle yn y fan acw yn awr i'r dyben o gael cyfie i sylwi ar y bobl yn offrymu eu rhoddion. Mehefin, 1868.