Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

61 "PEYDLONDEB MEWN DYFOD I FODDION GEAS, A'E AGWEDD FOESOL A DDYLAI FOD AENOM TEA YNO." §ae prydlondeb yn dda ac yn ganmoladwy gyda phob peth. Nid oes neb yn coÛi dim wrth fod yn bryd- lon, ond y mae llawer yn colli wrth fod yn an- mhrydlon; ac os ydyw felly gyda phethau tymorol, pa faint mwy gyda phethau ysbrydol f Ond sylwn yn I. AE. BBYDLOÎíDEB MEWÎf DYFOD I FODDION GBAS. 1. Bylemfod yn brydlon am eifod yn achos pwysig. Pan fyddo rhyw achos o bwys genym gyda phethau daearol, fel yr ydym yn ymdrechu bod yn brydlon. Pan fyddo y train ar gychwyn ymaith, y fath frys sydd arnom am fod mewn pryd rhag oí'n colli y cyfleusdra. Pa faint mwy y dylem fod gyda moddion gras î dyma'r achos pwysicaf mewn bod. Mae ein bywyd tragwyddol yn ymddibynu ar y modd yr ymddygwn at foddion gras. Dyma y modd- ion y mae Duw wedi ei fwriadu i achub y byd. O gan- lyniad, mae o bwys mawr i ni fod yn brydlon. Ni wydd- om yn y byd pa air a fydd, yn llaw Ysbryd Duw, yn foddion i argyhoeddfr pechadur o'i fiyrdd drygionus, ac i droi ei wyneb at Dduw. Pe meddyliem yn awr am ewyllys ddiweddaf unrhyw un i gael ei darllen ar amser penodol, ac os na byddai y person sydd yn dysgwyl cael rhywbeth oddiwrthi yno at yr amser cyhoeddedig, nad oedd i gael dim ohoni, 0 ! yr ymdrech a fyddai ynom am fod yno yn brydlon rhag ofn colli ein rhan. Pa faint mwy y dylai yr yindrech fod pan fyddo'r ewyllys Ddwy- fol yn cael ei darllen! Mae gan hon etií'eddiaeth i bawb, ac ar bawb angen amdani. Nid ydyw yr ewyllysiau daearol ond i rai; ond y mae hon i bawb. Oni ddylem ynte ofalu am fod yn brydlon yn moddion gras, lle mae ein bywyd tragwyddol yn cael ei gynyg ar delerau hawdd eu cyflawni ? 2. Dylem fod yn brydlon Jiefyd rhag aflonyddu ereül. Mae yna rai wedi dyfod yn brydlon er mwyn addoli y gwir Dduw ar yr " awr weddi;" ond y mae ereill yn dyfod i mewn ryw ugain munud neu haner awr yn rhy ddiweddar; a'r canlyniad fydd, i fyfyrdodau a duwiol- frydedd rhan fawr o'r gynulleidfa gael eu haflouyddu yn dost, trwy drwst y diẅeddariaid hyn yn dyfod i mewn. Yn wir, mae rhai yn debycach i anifeüiaid direswm yn b Ebrill, 1868