Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

21 MORDAITH Y PAECH. SAMUEL LEIGH. §N Ngwinllan Tachwedd, gadawsom Mr. Leigh yn ffarwelio â'i fam a'i chwaer wedi bod yn eu cwrnni ^^ am. y tro olaf am byth ar y ddaear hon. Chwe awr yn unig gafodd o amser gyda hwy: gollyngodd afael o law ei fam, a dacw fe yn dylyn llwybr ei ddyledswydd, ac yn dychwelyd i Lundain yn brydlon cjrn i'r llong gy- chwyn i'w thaith; ond erbyn iddo gyraedd yno, dyma lythyr at Bwjdlgor y Genadaeth o Ogledd America, yn hysbysu mai gwell fuasai i'r cenadwr beidio dyfod drosodd yr adeg hono, oherwydd cyfiwr aüonydd y wlad. Mewn canlyniad, dychwelwyd haner y llong-log i'r Pwyilgor, a hwy'íiodd y llong ymaith heb y cenadwr. Yr oedd y tro hwn yn siomiant ac yn ofìd mawr i'w feddwl; ond.yr hyn a brofodd yn ofid iddo ef, a drôdd allan wedi hyn yn gyf- ryngiaeth JDdwyfol i amcanion doeth a da. Yn inhen tua thair wythnos, dyma'r newydd yn cyraedd y wlad, bod y llong hono wedi myned yn ddrylliau, a phob un ag oedd ar ei bwrdd, oddieithr pedwar, wedi boddi! Nis geÜir llai na gweled llaw Duw yn amlwg yn yr amgyìchiad, yn gweithio yn ei Eagluniaeth fawr er atíal ei was rhag myned gyda hi, am fod arno ei eisieu mewn rhan arall o'r ddaear, i wrthwynebu pechod, ac i ledaenu sancteidd- rwydd. Gyda bod y drws yn cael ei gau yn erbyn j cenadwr yn Ogledcl America, wele Duw yn y fan 3Tn agor un arall. Daeth galwad o faes nad oedd un cenadwr Wesleyaidd wedi bod yno erioed o'r blaen, sef o New South Wales, lle, yn mhob golwg, yr oedd maes llydan iawn, a digon o waith, a Mr. Leigh fel dyn a christionyn meddu cyfaddasder neillduol o ran corff a meddwl i weithio ar y maes hwnw. Mae y llwyddiant mawr a ddylynodd ei lafur yn brawf o hyny. Cymharer cyfiwr yr achos pan y dychwelodd oddiyno, â'r hjn ydoedd pan yr aeth yno gyntaf. Os edrychir ar gyflwr presenol yr achos yn New South Wales, New Zealand, Awstralia, a manau ereill ag y bu yn llafurio ynddynt, fel ag eu dangosir yn Mynag mawr diweddaf ein Cenadaeth, gellir dyweyd i raddau pell mai ffrwyth llafur S. Leigh, dan fendith y Nefoedd, ydyw; ac wrth y cenadon sydd yno yn awr y gellir dyweyd, " Ereill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i'w llafur hwynt." Ond yr ydym yn crwydro. At yr hanes. b Chwefkok, 1868.