Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IONAWB, 1868- ADGOE AM Y DIWEDDAR BAECH. T. AUBREY. [AE Mr. Aubrey wedi marw î" Gwaith caled yw gorfod credu hyny hefyd—caled iawn ! Mae ein calon yn gwaedu, a'n dagrau yn rhedeg yn lli, wrth feddwl fod Thomas Attbhey yn ei fedd! Ond dyna y fEaith—ffaith ag sydd wedi ei hacenu mewn geiriau toredig, a llygaid llawnion, gan filoedd cyfeillion ac edmygwyr y " Tywysog" hwn yn Israeì. Ydyw, y mae y frawddeg fer, ond llawn o elfenau galar—" Mr. Aubx*ey wedi marw !" wedi tramwyo trwy ran fawr o'r deyrnas, gan beri tristwch ac ochain i ba le bynag y cyraeddodd. Ychydig funudau ar ol unarddeg o'r gloch nos Wener, y lófed o Dachwedd, 1867, torodd ei ysbryd mawr yn rhydd o rwymau marwoídeb, gan barablu gyda'i dafod marwol, " Joyful ! joyful ! joyfulP' Y dydd Mawrth. «anlynol, claddwyd yr hyn oedd farwol ohono yn Cemetmy Ehyl—" yn ymyl y môr"—a thònau yr eigion aflonydd yn canu ei Requiem. Nid yw yn dyfod o fewn ein cylch ni i ysgrifenu ^'cofìant" Mr. Aubrey: gwneir hyny gan ìywun. galluocach na ni. Ar yr un pryd, fe oddefìr i ni ollwng deigryn ar " fan fechan" ei fedd, a dyweyd ychydig eiriau am un fu yn ysgwyd Gymru a'i athrylith gysegr- edig. Ganwyd ef yn Cefncoed-y-cymer. Symudodd oddlyno i Nantyglo: yno y dechreuodd bregethu. Galwyd ^f allan i'r gwaith rheolaidd gan Gynadledd 1826, pan yrt 18 mlwydd oed, Llafuriodd yn galed am dros ddeugain mlynedd, a bu farw cyn cyraedd ei drigain mlwydd oed. Yr ydym yn cofio yn dda y tro cy ntaf y cly wsom ef erioed yn pregethu. O ran hyny, nid yw ei gofio ef yn pregethu yn ílawer o orchest i neb; ond sut i'w ddarlunio ! Dyna ormod o orohest i ni» Pan y gwelsom tâ gyntaf, yr oedd