Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN, Ehif. 7.] GORPHENAF, 1886. [Cyp. XXXIX ARDALYDD HARTINGTON. |AE yn llawen genym gyflwyno i'n darllenwyr ddarlun o'r Gwir Ánrhydeddus Arglwydd Hartington, ag enw yr hwn. yn ddiau, y maent yn ddigon adnabyddus, fel un o Seneddwyr blaenaf a mwyaf hynod, ar lawer cyfrif, ein gwlad. Ganwyd y Gwir Anrhydeddus Spencer Compton Cavendish, Ardalydd Hartington, Gorphenaf 23ain, 1833, ac efe yn fab hynaf seithfed Dduc Devonshire. Y mae teulu y Cavendish yn dra henafol ac uchelryw, ac y mae hanes y teulu wedi ei gyf rodeddu er ys oesoedd, a rhai o symudiadau a dygwyddiadau