Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T WINIalaAN. Bhif. 5.] MAL 1886. [Cyf. XXXIX. MR. JOSEPH ARCH, A.S. (ODDIWRTH YR ARADR i'R SENEDD). ÎTDA boddhad neillduol y cyflwynwn i ddarllenwyr y Winllan ddarlnn cywir o Mr. Joseph Arch, A.S., cynrychiolwr cyntaf llaf urwyr amaethyddol Lloegr yn Senedd Prydain Fawr; a chredwn y bydd y ffeithiau canlynol am dano yn dra derbyniol. Granwyd Mr. Arch yn Barford, swydd Warwick, Tachwedd lOfed, 1826; y mae efe felly yn ei driugeinfed flwydd. Llafurwr amaethyddol o'r graen goreu oedd ei dad, yn un sobr, darbodus, ac annibynol ei ysbryd; ac yr oedd ei fam yn ddynes ragoroí, yn un a lywodraethid gan yr amcan mawr o gynydd ei phlant yn yr ystyr oreu. Fel llawer o ddynion