Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T WINLLAN. Bhut. 12.] BHAGFYB, 1885. [Cyf XXXVIII. Y DIWEDDAR GENERAL GRANT. [ANWYD Hiraru Ulysses Grant, yn Point Pleasant, Claremount County, Ohio, America, Ebrill 27, 1822. Dywedir fod ei dad o darddiad Yscotaidd, ac mai masnachwr lledr ydoedd wrth eialwedig- aeth. Ulysses oedd yr hynaf o chwech o blant. Dywed Dr. Newman wrthym iddo gael ei ddwyn i fyny yn y Meíhodists Episcopal Church, ac fod. adgofion boreuaf y bachgen yn gysylltiedig a'n pregethwyr. Bu ty tad Grant yn llety i'r pregethwyr teithioî am dros ddeugain mlynedd; ac aml waith yr anfonwyd Grant ieuanc gan ei dad i ofalu am geffylau y pregethwyr. Cymerodd ei dad ran yn ngwaith yr eglwys, fel ymddiriedolwr, goruchwyliwr, a blaenor. xr ydoedd yn ddyn rhagorol yn mhob ystyr, ac yr oedd y fam hefyd yn un o'r merched mwyaf hawddgar.